5. 4. Datganiad: Ffliw Adar

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:50, 10 Ionawr 2017

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â’r datganiad. Fel y mae hi newydd ei ddweud, er nad ydym ni, efallai, fel gwleidyddion yn gallu bod o gymorth yn uniongyrchol wrth ddelio â’r clefyd yma, mae’n bwysig ein bod ni’n ei drafod, a bod hynny’n lledaenu neges gref gan y Llywodraeth ynglŷn â’r parth diogelwch ac ynglŷn â diogelwch y bwyd hefyd, sydd yn dal o hyd yng Nghymru, a bod y neges yna yn cael ei throsglwyddo.

A gaf i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet, a, thrwyddi hi, i’w staff a’r prif swyddog milfeddygol am weithio dros gyfnod y Nadolig, ac am fod ar gael i’r cynghorau lleol hefyd, wrth gwrs, i gydlynu ynglŷn â’r clefyd yma a’r ffaith bod angen cydweithio yn agos â Llywodraethau eraill dros y cyfnod nesaf? Fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae’r sector yma yn bwysig i economi Cymru. Efallai ein bod ni’n dueddol o feddwl am gig, cig oen a chig eidion, ond y mae 6 y cant o GDP amaeth yn deillio o’r sector dofednod ac y mae hynny’n gyfwerth â thua £100 miliwn. Felly, mae’n bwysig bod y neges yn mynd yn gryf iawn bod y bwyd yn ddiogel a bod y camau priodol yn cael eu cymryd i ddelio â’r clefyd ac i atal, gobeithio, lledaeniad y clefyd.

Mae rhan fwyaf y cwestiynau wedi cael eu gofyn ac wedi cael eu hateb, i fod yn onest—jest cwpl o gwestiynau penodol sydd ar ôl i mi gael bod yn glir yn eu cylch. Rŷm ni eisoes wedi trafod dofednod buarth neu wyau maes, neu beth bynnag yr ydych chi eisiau galw ‘free range’, ond mae e’n sector hynod bwysig i Gymru ac rwy’n meddwl ei fod e’n sector pwysicach yng Nghymru nag yn Lloegr, a dweud y gwir. Ar ôl rhyw 12 wythnos, rwy’n meddwl, mae yna berig y bydd y categori o wyau maes, er enghraifft, yn cael ei golli oherwydd bod y dofednod yn cael eu cadw dan do. Wrth gwrs, mae’n ddigon posib bod cynhyrchwyr wyau maes heb baratoi ar gyfer cadw dofednod dan do am gyfnod mor hir a bod yna effeithiau iechyd ar anifeiliaid yn y sefyllfa yna. Felly, pa gamau penodol sy’n cael eu cymryd yn y maes yma i sicrhau bod y sector yn mynd i gael ei ddiogelu, oherwydd bydd yna alw am gynnyrch o’r sector yma a bydd angen sicrhau bod y sector yn gallu goroesi unrhyw effaith gan y clefyd yma?

Mae’r ail gwestiwn yn un penodol yn deillio o’r datganiad y gwnaethoch chi ar 20 Rhagfyr pan, ar y pryd hynny, roeddech chi’n sôn nad oedd unrhyw waharddiad ar hel rhai adar at ei gilydd, yn benodol colomennod ac adar cewyll. Er, rwy’n meddwl, bod yr unig sioe yr oeddwn i’n ymwybodol ohoni wedi cael ei gohirio, mae’n dal yn bosib, o dan y gwaharddiadau presennol, rwy’n meddwl, fod y bobl sy’n hel colomennod ac ati at ei gilydd yn gallu parhau. A ydych chi wedi cael cyfle i ailedrych ar hynny yn y sefyllfa newydd a’r ffaith ei bod yn ymddangos bod y clefyd wedi ymledu yng Nghymru, ac yn y gogledd yn ogystal â’r de erbyn hyn?

Y cwestiwn olaf yw: er eich bod chi wedi bod yn glir iawn ynglŷn â’r negeseuon yr ŷch chi wedi eu rhoi allan fel Ysgrifennydd Cabinet, rŷm ni i gyd yn ymwybodol nad yw’r wasg yng Nghymru efallai yn adrodd yn llawn ar faterion gwleidyddol Cymreig. A ydych chi yn saff yn eich meddwl bod pob un sy’n cadw dofednod yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd o dan yr angen i gofrestru yn statudol, wrth gwrs, yn llwyr ymwybodol o statws Cymru o ran y clefyd yma ac yn llwyr ymwybodol hefyd o’r mesurau bioddiogelwch y mae angen eu cymryd i ymatal ac atal y clefyd?