Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 10 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am agor y ddadl. Fel yntau, nid wyf eisiau ailadrodd yr hyn a ddywedwyd yn ystod y drafodaeth ar y gyllideb ddrafft. Byddaf i hefyd yn canolbwyntio fy sylwadau ar y newid sydd wedi digwydd rhwng y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol, a hefyd ar rai o atebion y Llywodraeth i argymhellion y Pwyllgor Cyllid.
Mae yn drueni, er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb yn briodol i’r argymhellion, fod yr amserlen rŷm ni’n gosod i’n hunain fel Cynulliad i hwn yn golygu, mae’n siŵr, nad yw Aelodau’r Cynulliad wedi cael cyfle o gwbl, a dweud y gwir, i edrych ar ymateb y Llywodraeth i’r argymhellion. Mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion a gyhoeddwyd dros nos neithiwr yn ymwneud â chyllido tymor hir, ond mae rhai penodol hefyd y mae’r Llywodraeth wedi ymateb iddyn nhw yn benodol wrth baratoi’r gyllideb derfynol.
Felly, byddaf i’n canolbwyntio ar rai o’r newidiadau a wnaed, nid o reidrwydd oherwydd y Pwyllgor Cyllid, er bod gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb yn y pethau hyn, ond gan bwyllgorau eraill y Cynulliad hefyd a oedd yn dod ynghyd â thystiolaeth i’r Llywodraeth ar sail y gyllideb ddrafft, gan ofyn am ragor o adnoddau, neu newid yn yr adnoddau, neu, wrth gwrs, ddeilliannau o ddatganiad yr hydref.
Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i danlinelli bod y Pwyllgor Cyllid wedi edrych yn arbennig ar gynaliadwyedd o ran ariannu iechyd, ac felly rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn argymhellion ynghylch ariannu iechyd ac yn falch iawn o weld bod yna gyfalaf ychwanegol o dros £40 miliwn a ddyrannwyd dros bedair blynedd i wella’r ystâd iechyd a chyflymu arloesedd hefyd yn y sector yma. Mae hynny yn cydblethu â diddordeb y Pwyllgor Cyllid yn y gwasanaethau ataliol, a’r cydbwysedd rhwng y cynnydd yng nghyllid y gwasanaeth iechyd gwladol a chyllid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Rwy’n falch, felly, o ran y dyraniad yn y gyllideb derfynol o gyllid refeniw o £10 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Mae hynny yn adlewyrchu’r drafodaeth yn y Pwyllgor Cyllid, a’r trafod yn y pwyllgorau pwnc yn ogystal.
Rwyf hefyd yn nodi bod tipyn o arian cyfalaf wedi cael ei ddodi yn ôl yng nghyllideb yr Ysgrifennydd Cabinet dros ynni, newid hinsawdd a materion gwledig: £10 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gyfer mesurau arbed ynni, sydd newydd gael eu crybwyll gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; £3 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gyfer mesurau lliniaru llifogydd a dorrwyd yn wreiddiol—gofid mawr i’r pwyllgor amgylcheddol, neu’r pwyllgor newid hinsawdd, fe ddylwn ddweud, y dyddiau yma, a’r Pwyllgor Cyllid hefyd; a £5 miliwn o gyfalaf ychwanegol sydd newydd gael ei grybwyll hefyd ar gyfer cymunedau gwledig.
Felly, mae yna newid sylweddol sydd wedi’i hwyluso gan ddatganiad yr hydref rhwng y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol, ond fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod wedi halltu rhywfaint o arian wrth gefn, rhag ofn bod datganiad yr hydref yn un andwyol i’r Llywodraeth ac i’r Cynulliad. Gan nad yw wedi bod yn andwyol i’r fath raddau, mae modd rhyddhau rhywfaint o’r arian yma tuag at bwrpas y Llywodraeth, sy’n cyd-daro â nifer o bethau yr oedd y Pwyllgor Cyllid â diddordeb ynddyn nhw.
Byddai’r pwyllgor, serch hynny, wedi hoffi gweld mwy o sicrwydd ynghylch refeniw llywodraeth leol at y dyfodol, gan fod yr Ysgrifennydd Cabinet, yn gwisgo ei het arall, am baratoi Papur Gwyn ynglŷn â diwygio llywodraeth leol, ac mae’r Pwyllgor Cyllid yn mynd i ddilyn cyllido llywodraeth leol gyda chryn ddiddordeb, rwy’n meddwl, yn ystod y cyfnod yma, gan gynnwys y posibiliad o symud oddi wrth gyllido blynyddol i gyllido mwy tymor hir, tair blynedd, cyllido ar y sail sydd i fod i ddigwydd gyda byrddau iechyd—rhyw batrwm fel yna. Byddai hynny o ddiddordeb, yn bendant, i’r Pwyllgor Cyllid.
Fe gawsom ni hefyd dystiolaeth, yn ystod ein trafodaethau yn y Pwyllgor Cyllid, ynglŷn â’r effaith posib ar y gweithlu yn y sector gwasanaeth iechyd cyhoeddus a’r sector gofal cymdeithasol gydag ymadawiad y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos â llywodraeth leol a’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol. Rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn ac yn ymrwymo felly i archwilio pob opsiwn i gadw’r gweithlu gwasanaeth iechyd cenedlaethol sydd gyda ni, gweithlu sydd yn ddibynnol i raddau helaeth iawn ar fewnfudwyr o weddill yr Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd yn ogystal, wrth gwrs.
Rwyf hefyd yn cyfeirio at y ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion y pwyllgor ynglŷn â’r ffordd y mae’r Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn effeithio ar y ffordd mae’r Llywodraeth yn paratoi’r gyllideb. Byddwn i wedi dymuno gweld mwy o ôl yn y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol o ran sut y mae’r Ddeddf wedi llywio penderfyniadau’r Llywodraeth. Fe roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet enghraifft ym maes plant o’r ffordd roedd yn teimlo bod y Ddeddf wedi bod o gymorth i benderfyniadau’r Llywodraeth, ac rwy’n mawr obeithio, pan fyddwn ni’n edrych ar y gyllideb y tro nesaf, y bydd mwy o dystiolaeth o’r Ddeddf yma ar waith. Yn sicr, roedd y rhanddeiliaid yn awyddus iawn i weld hynny yn ogystal.
Wrth gloi’r sylwadau ar y gyllideb yma, mae’n deg nodi bod y Pwyllgor Cyllid yn mynd i edrych yn eiddgar iawn ar y newidiadau sydd yn dilyn yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf. Byddwn yn troi atyn nhw yn ystod y dyddiau nesaf, a dweud y gwir, yn y Cynulliad gyda datganoli cyllidol pellach, y fframwaith cyllido, sydd wedi’i gytuno rhwng y Llywodraeth a Llywodraeth San Steffan, a’r posibiliad ein bod ni fel Cynulliad yn symud at system llawer mwy Seneddol o edrych ar y gyllideb ar ffurf Bil cyllid llawn, sydd yn gallu cael ei newid neu ei ddiwygio ac, yn sgil hynny, wrth gwrs, yn gallu effeithio ar gyfraddau treth yn ogystal. Mae hynny yn sicr, yn fy marn i, yn mynd i ychwanegu at ddemocratiaeth yng Nghymru.