7. 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:03, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar y gyllideb derfynol. A gaf i yn gyntaf gytuno â'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a hefyd groesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i rai o argymhellion y Pwyllgor Cyllid, rai ohonynt a dderbyniais yn gynharach heddiw?

Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth agor y ddadl hon, mae hwyrni cyllideb eleni, oherwydd amseriad datganiad yr hydref, yn ddealladwy wedi achosi anawsterau iddo ef a'i dîm. Mae hefyd wedi achosi’r pennau tost sydd yn awr yn fwyfwy cyfarwydd i'r Pwyllgor Cyllid, y cyfeiriodd y Cadeirydd atynt.

Yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft cyn y Nadolig, roeddwn yn croesawu'r newyddion bod Llywodraeth y DU i ddarparu £436 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf rhwng 2016 a 2021 ar brosiectau cyfalaf, o ganlyniad i wariant ar seilwaith ychwanegol yn Lloegr. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r angen taer i fuddsoddi mewn seilwaith i dyfu ein heconomi. Rwy'n credu ein bod ni oll yn cytuno bod angen cyllideb wirioneddol gynaliadwy ar Gymru sy'n edrych i'r dyfodol.

Nodaf, yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, ei fod wedi derbyn mewn egwyddor y syniad y dylai'r gyllideb gyflawni ar y nodau sydd wedi'u gosod yn y rhaglen lywodraethu. Rydych chi'n iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw bob amser yn hawdd tynnu llinell rhwng cyllid a chanlyniadau, ond mae'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn ceisio gwneud hynny.

Yn awr, mae'n eithaf amlwg bod angen gwario’r arian cyfalaf ychwanegol hwn yn ofalus ac mae cynigion y gyllideb yn siarad am agwedd integredig, hirdymor tuag at gyllid cyfalaf. Byddwn yn dweud, wrth gwrs, ein bod wedi clywed hyn sawl gwaith o'r blaen. Efallai y bydd Aelodau'r Cynulliad a oedd yma yn y pedwerydd Cynulliad yn cofio, os oeddech yn gwrando, wrth gwrs—efallai na fyddwch yn cofio—ddwy flynedd yn ôl fy mod wedi rhybuddio y byddai’r diffyg ymrwymiad i gam dau ffordd gyswllt dwyrain y bae, y tu hwnt i gam un, yn anochel yn arwain at fwy o dagfeydd ar Rover Way yn ne Caerdydd, ar yr hyn a elwir y gylchfan i unlle. Nid oes unrhyw arwydd o hyd o weddill y ffordd gyswllt, ond rwy’n sylwi heddiw bod gennym ymrwymiad i ffordd osgoi Llandeilo, a symud ymlaen â hynny—cynllun ffordd poblogaidd iawn, rwy'n siŵr, gyda phobl Llandeilo ac ymhellach i ffwrdd a fyddai'n defnyddio'r ffordd honno—ond yr hyn y byddwn yn ei ofyn yw: a ydym yn gwbl argyhoeddedig bod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud ar sail gywir, gyda chynaliadwyedd tymor hir mewn golwg, yr wyf yn siŵr y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn siarad llawer amdano? Mae angen i ni fod yn sicr o hynny, ac mae angen i’r cyhoedd fod yn sicr hefyd.

Y pwynt yw weithiau yr ymddengys bod penderfyniadau yn cael eu cymryd, os caf ddweud, fel rhan o gytundeb cyllideb tymor byr, nad yw ond yn edrych—wel, nid yw hyd yn oed yn edrych tair blynedd ymlaen, nid yw hyd yn oed yn edrych un flwyddyn ymlaen, ond yn edrych ar gyfnod byr o ychydig fisoedd ymlaen. Mae hynny'n rhywbeth y mae pob un ohonom, mewn egwyddor, yn awyddus i symud oddi wrtho. Ond ar yr un pryd mae'n haws, rwy’n gwybod, ael ein denu gan rai bargeinion tymor byr y gallem eu difaru yn nes ymlaen. Yn rhy aml, mae cyllidebau wedi bod er budd gwleidyddol tymor byr, yn hytrach na mantais economaidd hirdymor. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn argymell y dylai'r gyllideb ddrafft yn y dyfodol ddangos yn eglur sut y mae'r rhaglen lywodraethu wedi llywio ac ysgogi'r broses pennu cyllideb, a sut y mae'n integreiddio gyda deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol—neu ddim yn gwneud hynny, fel yr ymddengys yn wir yn rhy aml.

Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn galwadau’r Pwyllgor Cyllid am asesiad effaith strategol o gyllidebau ar amcanion llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae hynny'n gadarnhaol. Mae llywodraethu yn ymwneud â blaenoriaethau a gwneud y gorau o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Wrth gwrs rydym yn gwybod bod y cyfyngiadau hynny yn mynd i gael eu llacio: y gyllideb hon fydd yr olaf i gwmpasu cyfnod lle nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau treth neu bŵer benthyca sylweddol. Yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, tynnais sylw at y ffaith, o gofio bod datganoli treth bellach dim ond ychydig dros flwyddyn i ffwrdd, efallai y byddwn wedi disgwyl rhywfaint o gydnabyddiaeth o hyn, ac arwydd o sut y bydd pwerau treth yn cael eu defnyddio fel arf i gefnogi'r rhaglen lywodraethu yn y dyfodol. Rwy’n gwybod nad yw’r pwerau hynny gennym eto, ond nid ydynt yn bell i ffwrdd. Ac os ydym yn dymuno i feysydd eraill o sefydliadau’r sector cyhoeddus a Llywodraeth weithio mewn cyllidebau aml-flwyddyn a chylchoedd aml-flwyddyn, yna rwy’n meddwl bod angen i ni ddechrau arwain drwy esiampl yn hynny o beth.

Rwy’n sylweddoli nad mater o Lywodraeth Cymru yn cynllunio’n well ar gyfer y dyfodol yw hyn; mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, rwy’n credu, fod angen i’r DU gyfan wneud hyn hefyd. Rwy'n falch bellach fod gennym, ers y ddadl ar y gyllideb ddrafft a gawsom cyn y Nadolig, gytundeb ar fframwaith ariannol, sydd yn gam enfawr ymlaen. Rydym yn mynd i gael y datganiad hwnnw ar y fframwaith cyllidol, rwy’n gwybod, mewn amser byr i ddod, felly ni fyddaf yn trafod hynny’n ormodol yn awr; digon yw dweud y bydd, gobeithio, yn ei gwneud yn haws i Lywodraeth Cymru gynllunio ymhellach ymlaen. Mewn cysylltiad â phwerau treth, rwy’n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn hanfodol bod gostyngiadau yn y grant bloc yn y dyfodol yn cael eu mynegeio’n iawn a’u bod yn briodol. Ni allwn fforddio cael hyn yn anghywir.

A gaf i ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth dynnu at y terfyn, rydym yn croesawu'r symudiad tuag at gronfa triniaethau newydd? Rwy'n dal i gredu ei bod yn drueni na wnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru wrando ar ein galwadau am gronfa triniaeth canser yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Dydw i ddim yn glir ynghylch y gronfa newydd hon o ran i ba raddau y mae'n ymdrin á thriniaethau presennol a’r cyffuriau hynny nad ydynt wedi cael eu cymeradwyo yn llawn. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro rhywfaint o'r dryswch ar hynny. Ond i gloi, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn croesawu'r gyllideb hon heddiw. Yn amlwg mae'n rhaid i ni gael cyllideb, ond os yw cynaliadwyedd wrth wraidd cyfansoddiad y Cynulliad, yna rwyf o’r farn bod angen i ni wneud llawer mwy i gynllunio ymhellach ymlaen a gwneud yn siŵr bod ein prosesau cyllideb mor fodern ag y bo modd. Ni fydd yn syndod i chi wybod nad ydym yn cefnogi'r gyllideb hon. Mae rhai pethau da ynddi, ond mae'n brin o fod y gyllideb hirdymor gwirioneddol gynaliadwy sydd ei hangen ar Gymru, a dyna pam na allwn ei chefnogi.