7. 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 5:35, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl bwysig iawn hon, a hoffwn longyfarch yr Ysgrifennydd Cyllid am y ffordd y mae wedi trin y materion hyn yn yr amgylchiadau heriol y cyfeiriodd atynt ar ddechrau ei gyflwyniad. Rwy’n croesawu'r gyllideb derfynol a'r refeniw ychwanegol a’r cyllid cyfalaf sydd wedi cael eu dyrannu, ac roeddwn i eisiau siarad yn fyr am rai o'r meysydd ychwanegol hynny heddiw.

Rwy'n arbennig o falch bod £6 miliwn o arian refeniw ychwanegol ar gael i helpu i atal digartrefedd. Rwy’n credu mai un o'r negeseuon, yn sicr gan y Pwyllgor Cyllid ac o lawer o'r trafodaethau yr ydym wedi'u cael am y ffordd yr ydym yn cynllunio ein cyllid, yw ein bod eisiau gweithio ar atal digartrefedd. Rwy'n credu bod hwn yn amlwg yn faes lle’r ydym wedi cymryd camau breision, ac rwy'n credu ei fod yn cael ei gydnabod yn eang bod Cymru yn arwain y ffordd yn y DU o ran atal digartrefedd. Rwy’n meddwl bod y £6 miliwn hwn—er, yn amlwg, nid yw’n swm enfawr—yn sicr yn mynd i wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae'n bwysig i ni gofio bod hwn yn faes lle’r ydym yn gwneud cynnydd. Bu galwadau gan elusennau digartrefedd i Lywodraeth y DU ddilyn esiampl Cymru yn ei deddfwriaeth, wrth osod dyletswydd gyfreithiol i helpu pobl mewn argyfwng tai, er mwyn atal a lleddfu digartrefedd. Gwn fod yr ystadegau wedi dangos bod hynny yn gweithio. Felly, rwy’n meddwl bod yr arian sy'n cael ei roi tuag at atal digartrefedd yn arian sy’n cael ei roi ble ddylai fynd o ddifrif. Felly, rwyf eisiau rhoi croeso mawr iawn i’r arian hwn sy’n mynd at ddigartrefedd.

Mae llawer o siaradwyr wedi crybwyll y £10 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, a pha mor hanfodol bwysig yw gofal cymdeithasol. Roedd Mike Hedges, wrth gwrs, yn cyfeirio at natur hirdymor gofal cymdeithasol, ac mae’r arian ychwanegol hwn, rwy’n gwybod, yn helpu i ddiwallu’r gost ychwanegol o ariannu'r cyflog byw cenedlaethol, ac mae'n ychwanegol at y £25 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Felly, rwy’n credu, unwaith eto, bod hyn yn dangos y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn ei rhoi i ofal cymdeithasol.

Rwyf hefyd am achub ar y cyfle i wneud sylwadau ar y cyllid £1.7 miliwn i roi cymorth ariannol i bobl hynny a'u teuluoedd sydd â gwaed halogedig. Yn amlwg, ceir ymgynghoriad ar daliadau i bobl sydd wedi'u heintio â gwaed halogedig a'u teuluoedd, ac mae hyn yn dal i fynd rhagddo tan 20 Ionawr. Felly, rwy’n gwybod nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud eto am sut y bydd y £1.7 miliwn hwn yn cael ei ddosbarthu. Rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi dod draw i gyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol, yr wyf yn gadeirydd arno, i glywed am bryderon a gofidiau’r bobl sy'n gobeithio cael budd o'r arian hwn. Roedd yn gallu gwrando ar brofiadau llawer o'r teuluoedd a phobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y sgandal hwn, sydd wrth gwrs yn dyddio'n ôl i'r 1970au a'r 1980au. Roeddwn i eisiau sôn am y grŵp hwnnw yn y ddadl ar y gyllideb hon oherwydd, yn amlwg, mae’r penderfyniadau a wnawn ynghylch arian o bwysigrwydd unigol aruthrol i bob un o'r bobl hynny sydd wedi dioddef o’r trychineb mawr hwn. Rwy’n obeithiol y byddwn yn gallu dod o hyd i ateb a fydd yn helpu i fodloni rhai o'u pryderon mwyaf. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cofio bod teuluoedd y rhai sydd wedi cael hepatitis C a chlefyd yr iau yn dioddef mwy o galedi ariannol o ganlyniad i’r ffaith fod aelodau o'r teulu wedi derbyn gwaed halogedig, oherwydd eu bod yn cael eu cosbi pan ddaw at gael benthyciadau a chael yswiriant. Mae hynny'n cael effaith niweidiol enfawr ar eu sefydlogrwydd ariannol. Dyna pam y maent yn dadlau dros gael cefnogaeth barhaus, yn hytrach na thaliadau untro. Felly, roeddwn yn awyddus i wneud y pwynt hwnnw yn y ddadl ar y gyllideb, er fy mod yn gwybod nad oes penderfyniadau wedi cael eu gwneud eto.

Yn olaf, hoffwn i adleisio’r newyddion da am y cynnydd sydd wedi'i wneud am y sefydlogrwydd ariannol yr ydym yn gobeithio a ddaw. Rwy’n croesawu'r syniad o gael y rheoleiddiwr annibynnol, yn enwedig, a chredaf fod hon yn gyllideb derfynol sydd i’w chanmol yn fawr iawn.