7. 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:32, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae cyllidebau yn ymwneud â dewisiadau. Er na fyddai neb ohonom yn teimlo, yn y Siambr hon, fod gennym yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru y byddai eu hangen arnom i ni wneud yr hyn yr ydym am ei wneud, mae’r gyllideb hon, rwy’n credu, yn dangos—fel y nododd Mike Hedges—ddiffygion cyni a'r posibilrwydd, hyd yn oed o fewn llai o adnoddau, o wneud y dewisiadau cywir. Y dewis y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y gyllideb hon yw sefyll ar ochr y bobl sy'n gwneud eu rhan, ond sy’n ei chael yn anodd gwneud hynny. Felly, os oeddech chi, fel rhiant ifanc yn fy etholaeth i, yn gallu anfon eich plant i Fwyd a Hwyl yn Ysgol Iau Melin yr haf hwn, gan roi ychydig mwy o amser i chi fynd i'r gwaith, a chymryd rhywfaint o bwysau oddi ar eich cyllideb gofal, gan roi iddynt ddau bryd y dydd a chwarae a darllen gyda'u cyd-ddisgyblion, y newyddion da yw bod y Llywodraeth yn mynd i ehangu’r prosiect hwnnw, yn ein hardal ni ac mewn mannau eraill. Os ydych chi'n brentis, bydd yn gysur ichi wybod bod Llywodraeth Cymru yn gwario pob ceiniog o'r ardoll brentisiaethau ar ehangu ei rhaglen brentisiaethau. Os ydych yn ceisio prynu cartref ac yn cael hynny’n anodd, yna mae’r £53 miliwn i ddwyn ymlaen yr ymrwymiad i dai fforddiadwy yn mynd i fod yn newyddion da. Os ydych yn mynd i mewn i ofal, mae dyblu’r terfyn cyfalaf a gwneud cychwyn ar hynny yn y gyllideb hon yn arwyddocaol iawn. Mae gwybod bod y gweithiwr gofal sy’n edrych ar eich ôl chi ar y ffordd i ennill y cyflog byw, o ganlyniad i ymrwymiad Llywodraeth Cymru, yn mynd i fod yn beth da. Felly, mae'r rhain yn ddewisiadau; ac mae’r Llywodraeth, yn fy marn i, o fewn cyfyngiadau cyfyngedig y gyllideb, yn gwneud y dewisiadau cywir.

Hoffwn hefyd ddweud, mewn cysylltiad â'r fframwaith cyllidol—hoffwn longyfarch yr Ysgrifennydd Cyllid ar ei gamp wrth drafod y setliad. Hon yw’r gyllideb olaf a fydd yn cael ei chynnal o dan yr hen drefn—neu'r drefn bresennol. Mae'n hynod arwyddocaol ei fod wedi llwyddo i gynnwys yn y fformiwla sylfaen anghenion ar gyfer Barnett, ac mae’n hynod arwyddocaol y byddwn yn cael adolygiad annibynnol ar gyfer y fformiwla a mecanwaith ar gyfer datrys anghydfodau annibynnol. Nid yw, yn fy marn i, yn mynd yn ddigon pell, a chredaf mai dyna ei farn ef a barn pobl eraill yn y Siambr hon hefyd. Serch hynny, mae hwn yn gam mawr ymlaen. Fy newis personol i fyddai gweld mecanwaith statudol sy'n ymgorffori’r egwyddorion hyn yn y gyfraith. Rydym yn cymryd ein pwerau ar sail statud, ac rydym yn cael ein hariannu ar sail ysgydwad llaw, ac mae’r mecanwaith hwn yn golygu cychwyn ar y daith sy’n symud i ffwrdd oddi wrth hynny. Yn hynny o beth, mae'n arwyddocaol iawn, ac mae’n rhaid ei longyfarch ar y gamp honno.