Part of the debate – Senedd Cymru am 6:34 pm ar 10 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn sydd wedi bod, yn fy marn i, yn ddadl adeiladol a diddorol iawn? Fy man cychwyn i yw’r hyn a nododd Nick Ramsay. P'un a ydych o’r farn bod datganoli trethi yn fater o gyffro mawr neu anesmwythder dwfn, mae'n mynd i ddigwydd a’n gwaith ni yw paratoi ar ei gyfer a gwneud hynny yn y ffordd fwyaf gofalus a chymwys ag y gallwn.
Wrth lunio’r darn hwn o ddeddfwriaeth, y blaenoriaethau yr wyf wedi eu dilyn yw’r rhai y mae eraill wedi’u nodi yn ystod y ddadl. Yn gyntaf oll, parhad—dyna oedd y neges allweddol gan randdeiliaid. Ar y diwrnod y daw'r gyfraith hon i fodolaeth, maent am iddi fod yn gyfraith y gellir ei hadnabod fel y gyfraith y maent yn gyfarwydd â hi eisoes, ac rydym wedi creu’r gyfraith er mwyn cyflawni hynny.
Ein hail egwyddor, fodd bynnag, yw ein bod ni hefyd yn awyddus, wrth ddarparu ar gyfer parhad, i wella hygyrchedd y gyfraith yn y maes hwn. Rydym wedi tynnu at ei gilydd, o dan yr un Bil, gyfres o wahanol rannau o’r gyfraith bresennol i'w gwneud yn fwy dealladwy ac yn fwy hygyrch.
Yna, yn drydydd, yn y modd y mae Adam Price wedi’i nodi, rydym wedi cynllunio’r Bil mewn ffordd sy'n caniatáu ar gyfer y posibilrwydd o fwy o wahaniaethu yn y dyfodol. Dyna pam y mae gan y Bil hwn y cyfuniad hwn o bwerau ar wyneb y Bil a'r pwerau i wneud rheoliadau. Rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies am gymeradwyo’r cydbwysedd hwnnw, gan y byddai'n caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud pethau’n wahanol yng Nghymru yn y dyfodol, wrth i faterion ddatblygu.
Nid oes amheuaeth bod ysgwyddo cyfrifoldebau am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd yn heriol; mae'n arwain at rai materion o gymhlethdod yr ydych wedi clywed amdanynt y prynhawn yma. Rwy’n gweld nad oedd Adam Price wedi rhoi’r un pos i chi ag y rhoddodd i fi, am y person sy'n berchen ar eiddo ar y ffin sydd ag afon sy'n ymdroelli i mewn ac allan o Gymru, ac sy’n dymuno gwerthu'r hawliau pysgota ar un rhan o lan yr afon, a pha sefyllfa y bydd y person hwnnw ynddi pan ddaw'r ddeddfwriaeth hon i fodolaeth? Wel, dyna beth fydd hanfod Cyfnod 2: gweithio allan rhai o'r manylion hynny, ar yr amod, wrth gwrs, fod y Cynulliad yn barod i roi caniatâd i fwrw ymlaen y prynhawn yma.
Mae nifer o Aelodau wedi ein hatgoffa ni bod hwn yn Fil sy’n ymwneud â mesurau atal osgoi yn ogystal â’r dreth dir ei hun. Byddai'n rhaid i mi ddweud wrth Mark Reckless fy mod i, mewn gwirionedd, yn dymuno i’r Bil hwn gyfleu’r neges, pan gaiff trethiant ei ddatganoli i Gymru, nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn mynd i oddef osgoi trethi o unrhyw fath, er ein bod ni’n saernïo’r Bil ei hun mewn ffordd sy’n ofalus ac yn gymesur.