Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 10 Ionawr 2017.
Rwy’n cytuno’n llwyr. Nid ydym am fynd ati mewn ffordd sy'n arwain at gymhlethdod diangen. Rydym yn delio ag atal osgoi, yn fy marn i, mewn ffordd ofalus a chymesur. Byddwn yn troi yn gyntaf at y rheolau penodol sy’n targedu atal osgoi sy'n mynd i’r afael ag achosion o gamddefnydd y gwyddom eu bod wedi digwydd yn y gorffennol. Os nad yw’r rheolau hynny yn mynd i’r afael â’r materion, mae gennym reol atal osgoi gyffredinol wedi’i thargedu ym maes rhyddhad, ac os nad yw hynny'n mynd i’r afael â’r materion, mae gennym reol atal osgoi gyffredinol y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gallu dibynnu arni yn y dyfodol—mae hyn oll a gwiriadau a balansau wedi’u hymgorffori yn y Bil.
Ni fydd dim o hyn yn digwydd, Ddirprwy Lywydd, fodd bynnag, oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno â chyngor y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol bod y Bil yn addas i basio proses graffu Cyfnod 1. Os bydd hynny’n digwydd, edrychaf ymlaen at y ddadl bellach y mae’n ddi-os y bydd angen i ni ei chael bryd hynny.