Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Ac, ymhellach i hynny, mae’r cynllun buddsoddi yn seilwaith Llywodraeth Cymru yn rhestru dros 350 o fuddsoddiadau ar draws Cymru, gyda chyfanswm gwerth dros £40 biliwn. Fe fyddwch chi’n ymwybodol o hynny. Nawr, mae’n amlwg na fydd setliadau cyfalaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig, na gallu benthyg cyfyngedig y Cynulliad yma, yn ein galluogi ni i ddelifro’r gwelliannau i’n seilwaith sydd eu hangen dros y blynyddoedd nesaf. Ac, yn dilyn y ffaith bod yr ymgynghoriad ar greu comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru—NICW—wedi cau ddydd Llun, pa drafodaethau ydych chi’n mynd i’w cynnal gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynglŷn â dyfeisio system ariannu arloesol a fyddai’n ein galluogi ni i ddelifro mwy o brosiectau angenrheidiol, rhywbeth yn debyg i weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer y corff, er enghraifft—ein NICW ni, o’i gymharu â’ch NICW chi?