Mercher, 11 Ionawr 2017
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant cyfalaf sydd wedi’i gynllunio yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0077(FLG)
2. Ai polisi Llywodraeth Cymru yw cefnogi rhaglen beilot a gaiff ei harwain gan awdurdod lleol o ran incwm sylfaenol cyffredinol? OAQ(5)0072(FLG)
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o ddatblygu trysorlys Cymreig? OAQ(5)0078(FLG)[W]
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllideb i bortffolio’r amgylchedd? OAQ(5)0075(FLG)
5. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i hyrwyddo arfer gorau mewn llywodraeth leol? OAQ(5)0070(FLG)
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy awdurdodau lleol? OAQ(5)0073(FLG)
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei gyfrannu at Fargeinion Dinesig? OAQ(5)0067(FLG)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i alluogi disgyblion i gael dealltwriaeth lawnach o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ym myd gwaith? OAQ(5)0072(EDU)
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi clybiau cinio a chlybiau hwyl mewn ysgolion cynradd yn ystod gwyliau haf yr ysgolion? OAQ(5)0063(EDU)
Rwy’n galw nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y consortiwm addysg ar gyfer ardal Abertawe? OAQ(5)0061(EDU)
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(5)0073(EDU)
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymgysylltiad disgyblion â’r system addysg? OAQ(5)0069(EDU)
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ(5)0070(EDU)
8. Pryd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi ei chynlluniau, yn unol ag argymhelliad Adolygiad Diamond, i ysgogi graddedigion i weithio yng Nghymru, neu ddychwelyd i weithio yng Nghymru?...
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau o dan yr eitem nesaf.
Felly, eitem 4 yw’r datganiadau 90 eiliad. Janet Finch-Saunders.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 3 yn cael ei dad-ddethol.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol.
Mae’r bleidlais gyntaf, felly, ar ddadl y Ceidwadwyr ar barodrwydd yr NHS ar gyfer y gaeaf, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais....
Ac felly rydw i’n gofyn i Joyce Watson gynnig y cynnig am y ddadl fer a gyflwynwyd yn ei henw hi—Joyce Watson.
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch y dyraniad yn y gyllideb i'r portffolio addysg?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud ynghylch cyflwyno cwricwlwm gwyddor cyfrifiaduron newydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddisgwyliadau'r Llywodraeth o ran Awdurdodau Lleol mewn perthynas â gweithredu safonau'r Gymraeg?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia