<p>Gwariant Cyfalaf sydd wedi’i Gynllunio</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:32, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Julie Morgan am ei chwestiwn pellach. Cyfeiria at waith a ddechreuwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, gan y bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru 21 y cant yn is yn 2019 nag yn 2009, hyd yn oed gyda’r £440 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad cyfalaf a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref, a golyga hynny ein bod wedi gorfod chwilio am ffyrdd arloesol y gallwn ariannu datblygiadau cyfalaf pwysig iawn yn y dyfodol. Mae Canolfan Ganser newydd Felindre yn un o dri chynllun o’r fath sydd wrthi’n cael eu datblygu. Bydd cyfanswm eu gwerth cyfalaf oddeutu £1 biliwn. Nawr, yn ddiweddar, archwiliwyd model buddsoddi cydfuddiannol Cymru gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn sicrhau, pan fyddwn ymhen y rhawg mewn sefyllfa i fwrw ymlaen ag ef, na fydd ei wariant yn cyfrif yn erbyn ein terfyn gwariant cyfalaf adrannol. A chredaf fod y sgyrsiau hynny wedi bod yn adeiladol, a gobeithiaf y byddaf mewn sefyllfa i roi gwybod i’r Cynulliad ynglŷn â’u canlyniad o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.