Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 11 Ionawr 2017.
Wel, Gadeirydd, o flaen y Pwyllgor Cyllid y bore yma, bûm yn archwilio’r ffaith fod yna amryw o wahanol ffyrdd y gallwn fuddsoddi cyfalaf yng Nghymru—cyfalaf traddodiadol, cyfalaf trafodion ariannol, y gallu newydd y byddai gennym i fenthyca pe bai Bil Cymru’n cael ei basio, a modelau ariannu arloesol. Rydym yn ceisio defnyddio pob dull sydd ar gael i ni er mwyn cyflawni’r buddsoddiadau cyfalaf pwysig iawn sydd yno ar draws yr ystod o gyfrifoldebau y mae’r Cynulliad yn eu cyflawni. Nawr, yn achos Cadw, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal trafodaethau gyda Cadw ynglŷn â’r posibilrwydd eu bod hwy eu hunain yn cefnogi’r buddsoddiad cyfalaf drwy’r refeniw a godir ganddynt, ac mae honno eto’n ffordd arall y gallwn wneud hyn, ond rydym yn parhau i fod yn barod i ystyried yr holl wahanol ddulliau sydd ar gael i ni er mwyn gwneud gwaith pwysig o’r math y mae’r Aelod newydd ei nodi.