<p>Gwasanaethau Cyhoeddus </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:13, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am dynnu fy sylw at hynny. Nid oeddwn wedi clywed am y mater cyn hyn, ac rwy’n fwy na pharod i holi’r awdurdod lleol ynglŷn â’r mater. O ran y pwynt mwy cyffredinol, rwy’n cytuno ag ef, wrth gwrs: mae’r Llywodraeth hon yn buddsoddi’n sylweddol iawn drwy ein cynllun buddsoddi i arbed i gynorthwyo awdurdodau lleol i uwchraddio eu goleuadau yn y ffordd honno, sydd nid yn unig yn darparu lefel well o olau a ffordd o oleuo sy’n well i’r amgylchedd, ond sydd hefyd yn cynhyrchu arbedion sylweddol i awdurdodau lleol yn y tymor hwy.