Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 11 Ionawr 2017.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gyfrannu £503 miliwn at fargen ddinesig £1.2 biliwn prifddinas-ranbarth Caerdydd. Gobeithiaf y byddwn, cyn bo hir, yn cyrraedd y pwynt pan ellir arwyddo cytundeb penawdau’r telerau i sicrhau bargen ddinesig Abertawe a’r cyllid a fyddai’n ei chefnogi.