Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 11 Ionawr 2017.
Mae’n wir ein bod yn teimlo mwy o gysylltiad â phobl eraill adeg y Nadolig, ond yn fwy ar ein pen ein hunain pan ydym yn unig. Felly, roedd y straeon hyn yn taro tant. Cyn ei marwolaeth annhymig, helpodd Jo Cox i gasglu tystiolaeth am unigrwydd mewn gwahanol rannau o gymdeithas: plant sy’n drist ofnadwy, mamau newydd, pobl anabl ynysig, dynion sy’n dioddef o iselder, a phobl hŷn. Ac mae ei gwaith yn byw ar ei hôl, ac yn cael ei barhau gan Rachel Reeves AS. Mae academyddion ac elusennau, gan gynnwys y Campaign to End Loneliness, Age UK, Gweithredu dros Blant, y Co-op a’r Groes Goch Brydeinig, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, a Sense, wedi cyfrannu at y comisiwn. Mae eu tystiolaeth yn dangos bod mwy na 9 miliwn o bobl ym Mhrydain, bron un o bob pump o’r boblogaeth, yn dweud eu bod yn unig drwy’r amser neu’n aml. Mae ymchwil y Groes Goch a’r Co-operative yn ategu’r ffigur hwnnw. Dywedant fod bron i un o bob pump o bobl yn unig drwy’r amser neu’n aml. ‘Yn unig drwy’r amser neu’n aml’—i mi, mae hwnnw’n ymadrodd trist dros ben, yn ffigur syfrdanol. Ond beth y gallwn ni ei wneud am y peth? Mae unigrwydd yn rhan o fywyd. Yr awdur a’r athronydd Americanaidd, Henry David Thoreau a ysgrifennodd:
Mae dynion drwy’u trwch yn byw bywydau o anobaith tawel.
Mae pobl wedi disgrifio hon fel oes pryder. Ond gallwn weithredu, ac fe ddylem weithredu, oherwydd mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn bryder cyhoeddus, yn ogystal ag anhapusrwydd preifat. Yn un peth, mae’n fater iechyd y cyhoedd. Mae unigrwydd yn gysylltiedig â symptomau corfforol fel pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon, iselder, afiechyd meddwl, yfed a chamddefnyddio sylweddau. Buom yn trafod gordewdra yn gynharach y prynhawn yma, a bydd peth ymchwil yn awgrymu y gall unigrwydd fod mor niweidiol i iechyd â gordewdra neu ysmygu. Felly, mae yna ddadl eglur o ran iechyd y cyhoedd. Yn fwy cyffredinol, mae unigrwydd yn gyfuniad o faterion personol, cymunedol, a chymdeithasol ehangach. Mae’n effeithio’n negyddol ar gymunedau yn ogystal ag unigolion. Bydd pobl yn encilio. Byddant yn ymddieithrio. Byddant yn cyfrannu llai. Byddant yn absennol o’r gwaith. Felly, mae’n effeithio ar bawb yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Fel y mae teitl y ddadl yn awgrymu—’O’r golwg yng ngolwg pawb’—mae unigrwydd yn broblem ar bob stryd, ym mhob cymdogaeth, ac ym mhob teulu bron, yn ôl pob tebyg.
Felly, sut y mae mynd i’r afael ag ef? Yn gyntaf, rhaid i ni ei adnabod, a dyna ble y gall y comisiwn a’r ymchwil helpu’n aruthrol. Mae ymchwil y Groes Goch a’r Co-op yn dangos bod bron i dri chwarter y bobl a ddywedodd eu bod yn unig drwy’r amser neu’n aml yn perthyn i un o chwe chategori sy’n gysylltiedig â newid amgylchiadau neu yn sgil digwyddiadau bywyd. A’r rhain yw: bod yn fam ifanc, y rhai sydd â phroblemau iechyd, pobl sydd wedi dioddef profedigaeth yn ddiweddar, pobl â symudedd cyfyngedig, pobl sydd wedi ysgaru neu wahanu’n ddiweddar neu wedi ymddeol, a phobl sy’n byw heb blant yn y cartref. Yr hyn sy’n amlwg yw nad oes un achos syml dros unigrwydd. Felly, ni cheir un ateb sy’n gweddu i bawb. Yn hytrach, mae angen cymysgedd o weithgareddau i atal y problemau hyn, i ymateb i brofiadau pobl, ac i adfer hyder y rhai yr effeithiwyd arnynt ers peth amser.
Mae pawb ohonom yn gwybod, wrth gwrs, fod oed yn ffactor risg amlwg sydd wedi’i ddogfennu’n dda mewn perthynas ag unigrwydd. Yn ei gyflwyniad i’r comisiwn, cynhaliodd Age Cymru arolwg o bobl dros 60 oed yng Nghymru fis Tachwedd diwethaf, ac mae’r canlyniadau’n amlygu pwysigrwydd pethau fel cludiant fforddiadwy i ac o ddigwyddiadau cymdeithasol, clybiau cinio, clybiau cymdeithasol, ac ymweliadau wyneb yn wyneb. Dyna pam y mae pobl yn parhau i ymgyrchu’n angerddol i achub gwasanaethau fel eu canolfannau dydd lleol, a pham y mae grŵp Llafur ar Gyngor Powys hefyd wedi ymgyrchu, ac eraill yn parhau i ymgyrchu ym mhob man. A dyna pam roedd camau pendant Llywodraeth Cymru i achub y gwasanaeth bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd yn hanfodol. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad mwy am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi ein cymunedau gwydn. Mae tueddiad i orddefnyddio’r gair hwnnw, ‘cymuned’, a chaiff ei ddefnyddio’n rhy llac. Rwy’n gwingo pan glywaf bethau fel ‘cymuned sy’n rhoi benthyciadau morgais’. Ond mae cymuned—gwir ystyr cymuned—yn rhan annatod o fywyd Cymru, ac rwy’n credu hynny’n gryf.
Mae gwledigrwydd yn ffactor risg arall ar gyfer unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, ac mae’n gyffredin yn fy rhanbarth i, er, wrth gwrs, gall pobl fod ar wahân heb fod yn unig, a gallant fod yn unig heb fod ar wahân. Mae trafnidiaeth a chyfleusterau yn arbennig o bwysig mewn lleoliad gwledig ond mae hynny’n wir hefyd am gysylltiad rhyngrwyd da, ac mae Cyflymu Cymru wedi helpu mewn rhai ffyrdd. Ond unwaith eto, yr hyn sy’n amlwg o waith ymchwil y comisiwn yw bod unigrwydd yn cyffwrdd â phob rhan o gymdeithas: menywod a dynion, trefol a gwledig, hen ac ifanc. Mae ChildLine wedi helpu mwy na 4 miliwn o bobl ifanc, gyda mwy a mwy yn cysylltu â hwy yn y blynyddoedd diwethaf i ddweud pa mor ddiobaith a thrist ac unig y maent yn teimlo. Mae cyfryngau cymdeithasol, wrth gwrs, yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad, ond nid yw’n cymryd lle siarad â phobl wyneb yn wyneb. Yn aml gall wneud i bobl deimlo’n fwy unig, a gall amlygu cymaint o gysylltiadau sydd gan bobl eraill, yn ymddangosiadol o leiaf.
Felly, mae angen dull cyfannol arnom i fynd i’r afael ag unigrwydd, un y bydd yn rhaid iddo, yn ddi-os, dorri ar draws meysydd polisi ac adrannau’r Llywodraeth, yn lleol ac yn genedlaethol. Am y ddwy flynedd nesaf, bydd y Groes Goch yn darparu cymorth uniongyrchol personol i 12,500 o bobl mewn 39 o leoliadau ym Mhrydain, gan gynnwys y pedair ardal yng Nghymru y soniais amdanynt yn gynharach—Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Thorfaen. Bydd timau o gysylltwyr cymunedol ymroddedig a staff cymorth yn y cartref a gwirfoddolwyr yn darparu cymorth seicogymdeithasol arbenigol, cymorth diogelu a help i bobl sy’n profi unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Byddant yn darparu 12 wythnos o ofal dwys sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan nodi gweithgareddau, grwpiau diddordeb, a gwasanaethau lleol i helpu pobl fagu hyder.
Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r prosiect yn Sir Gaerfyrddin, lle y mae bron i draean o’r boblogaeth yn byw eu hunain. Cyfeiriwyd un defnyddiwr gwasanaeth yno, Janet—nid ei henw iawn—at y Groes Goch yn ystod y gwanwyn y llynedd, ar ôl iddi gael strôc yn ddiweddar a oedd yn cyfyngu ar ei gallu i gerdded. Er ei bod wedi bod yn dioddef o orbryder cyn y strôc, ers hynny roedd hi wedi datblygu agoraffobia a phyliau o banig. Nid oedd wedi gadael ei thŷ na chamu allan drwy’r drws cefn hyd yn oed ar ei phen ei hun ers iddi ddychwelyd o’r ysbyty sawl wythnos cyn hynny. Roedd hi eisiau gallu cerdded at waelod y dreif un diwrnod i gyfarch ei gŵr pan ddôi adref, ac roedd hi hefyd yn awyddus i allu ymweld â’i mab yn Copenhagen adeg y Nadolig a gallu cerdded yn annibynnol o’r trên i fflat ei mab, a oedd tua 400m. Cafodd Janet ei chyflwyno i wirfoddolwr o’r Groes Goch, Heather, ac roedd y ddwy’n gyrru ymlaen yn dda ar unwaith. Dechreuodd Heather ymweld â hi’n wythnosol a byddent yn ymarfer mynd y tu allan i’r drws ffrynt, dim ond sefyll yno, a dod yn ôl i mewn. Mewn cyfnod byr iawn o amser aethant yng nghar Heather ar ymweliad â’r arfordir, ar gais Janet, a chynyddodd ei hyder. Yn fuan wedyn, roeddent yn cerdded ar hyd y dreif, a dechreuodd Janet gerdded ar ei phen ei hun, gyda Heather yn sefyll ar y pen arall. Erbyn yr adeg y daeth cymorth Heather i ben, ar ôl y tri mis, roedd Janet yn defnyddio’i sgwter symudedd i deithio pellteroedd hwy ar ei phen ei hun i’r swyddfa bost leol, ac roedd hi’n ymarfer cerdded ar ei phen ei hun yn rheolaidd. A do, fe lwyddodd i ymweld â’i mab yn Denmarc adeg y Nadolig.
Mae Age Cymru hefyd yn gwneud gwaith aruthrol yn y maes hwn ac maent yn lansio ymgyrch fawr newydd yn fuan. Felly, beth y gallwn ni ei wneud yma yn y Cynulliad? Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud? Mae unigrwydd yn rhychwantu llawer o feysydd polisi, fel rwy’n dweud, ond drwy lunio a chraffu ar fwy o bolisi a deddfwriaeth drwy lens unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, gallwn ddechrau mynd i’r afael ag ef yn fwy effeithiol. Dyna’r wleidyddiaeth. Ond yn bersonol, gall pawb ohonom weithredu a gall pawb ohonom wneud mwy. Wrth i lewyrch y Nadolig bylu ac wrth i oerni’r gaeaf barhau, fe allem, mewn gwirionedd, ddechrau sgwrs: gallem godi’r ffôn a siarad â pherthynas oedrannus neu unig a gallem, mewn gwirionedd, wneud amser ar gyfer pobl.