Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i Joyce Watson am roi’r cyfle i drafod yr heriau sy’n ein hwynebu wrth fynd i’r afael ag unigrwydd yn ein cymunedau yng Nghymru. Yn draddodiadol, mae ein cymunedau wedi bod, ac yn parhau i fod yn llefydd lle y mae pobl yn cadw llygad ar ei gilydd ac yn helpu ei gilydd. Ond wrth i gymdeithas newid, mae nifer cynyddol o bobl yn dioddef arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd yn ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi. Lle y byddai cenedlaethau o’r un teulu, unwaith, wedi byw eu bywydau o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd, yn yr un stryd, yr un gymuned, heddiw mae aelodau o’r un teulu’n aml wedi’u gwasgaru ar draws y wlad neu hyd yn oed ar draws y byd wrth iddynt fynd ar drywydd cyfleoedd gwaith neu ddechrau eu teuluoedd eu hunain. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd y genhedlaeth hŷn yn cael ei gadael ar ôl, fel y pwysleisiodd Eluned Morgan yn ei chyfraniad.
Nid ffenomen sy’n gysylltiedig â heneiddio’n unig yw unigrwydd ac arwahanrwydd wrth gwrs. Mae pawb ohonom yn profi cyfnodau o unigrwydd ac fel yr amlygwyd yn glir iawn yn y ddadl hon, mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn creu risg fawr i iechyd y cyhoedd—yn aml cyfeirir atynt fel y lladdwyr tawel, ac yn aml maent yn gysylltiedig â salwch meddwl, clefyd cardiofasgwlaidd, pwysedd gwaed uchel a chynnydd yn y risg o ddementia. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth a fydd, o reidrwydd, yn strategaeth ar gyfer Cymru gyfan ac ar draws y Llywodraeth i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Ond mae’n rhaid iddi gwmpasu nid yn unig y Llywodraeth yn genedlaethol ac yn lleol—mae llywodraeth leol yn chwarae eu rhan, a’r gwasanaeth iechyd—ond y trydydd sector a’n cymunedau hefyd.
Mae yna nifer o ddulliau sy’n seiliedig yn y gymuned o gefnogi pobl sydd bellach yn unig ac wedi’u hynysu a chawsant eu crybwyll heddiw. Rhoddodd Joyce sylw iddynt yn y ddadl hon. Mae’n bwysig fod ein strategaeth, unrhyw strategaeth gan y Llywodraeth, yn hyrwyddo modelau cynaliadwy sy’n cael eu hintegreiddio yn y cymunedau. Rydym eisoes yn rhoi camau ar waith i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yng Nghymru drwy ystod o raglenni a chynlluniau ac mae rhai o’r rhain wedi cael eu crybwyll. Sefydlodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol raglen dair blynedd o rwydweithiau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr, a gâi eu galw weithiau’n gymunedau tosturiol. Mae’r rhain yn cefnogi pobl sy’n unig ac wedi’u hynysu drwy fodel presgripsiynu cymdeithasol ac yn cynorthwyo i fynd i’r afael ag effeithiau niweidiol unigrwydd ac arwahanrwydd.
Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chymunedau ar ddiogelu cyfleusterau lleol sy’n dod â phobl at ei gilydd, gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac amgueddfeydd. Mae’r rhain yn bwysig iawn i bobl hŷn ac i bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain, pobl sy’n mynd drwy gyfnodau o ddiweithdra neu arwahanrwydd. Wrth gwrs, rhaid i’r cyfleusterau hyn fod ar gael iddynt ac yn wir, mae llawer o’r cyfleusterau wedi cael eu bygwth a’u cyfyngu gan galedi ac mae angen i ni sicrhau y gallwn eu hamddiffyn a’u diogelu.
Mae’r tocyn bws consesiynol yn bwynt pwysig. Mae wedi dod yn achubiaeth gymdeithasol i bobl hŷn yng Nghymru, gyda 92 y cant yn dweud bod eu tocyn bws yn cynnal eu hannibyniaeth ac 81 y cant yn credu y byddai ansawdd eu bywydau’n dioddef hebddo. Felly, mae ein gwasanaethau bws yn allweddol, fel y dywedodd Joyce Watson. Maent yn galluogi a grymuso pobl—nid pobl hŷn yn unig, ond pobl anabl a’u gofalwyr hefyd. Crybwyllwyd yn adroddiad y Groes Goch fod cyfyngiadau ar symudedd yn arwain at wneud pobl yn agored i niwed, gan arwain at unigrwydd ac arwahanrwydd—heb ddulliau annibynnol o adael eich cartref, cynlluniau cyfeillio, yn ogystal â chyfleoedd teithio a thocyn bws. Mae’r rhain i gyd yn rhan o’r cysylltiadau pwysig sy’n galluogi pobl i fod yn rhan o fywyd y gymuned.
Felly, mae cynllun y Groes Goch Brydeinig—wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Groes Goch Brydeinig mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol—i gefnogi prosiect cyfeillio Camau Cadarn yn amlwg yn bwysig. Mae’n allweddol i hyn. Mae’r ddau sefydliad yn cydweithio i greu rhaglen newydd i gynorthwyo pobl hŷn sy’n profi unigrwydd dwys, arwahanrwydd ac afiechyd. Rydym wedi ariannu’r comisiynydd pobl hŷn yng Nghymru i weithredu fel ein llais annibynnol, i gefnogi pobl hŷn ledled Cymru ac i ddarparu’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Daw hon ag unigolion a chymunedau a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i ddatblygu ffyrdd arloesol ac ymarferol o wneud Cymru yn lle da i dyfu’n hen. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar bum thema, yn cynnwys unigrwydd ac arwahanrwydd, ac mae wedi datblygu ymgyrch i roi diwedd ar unigrwydd, mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, y Groes Goch Brydeinig a Siediau i Ddynion yn ogystal, sy’n bwysig ei nodi.
Rydym hefyd wedi ariannu My Generation Mind Cymru, prosiect blaengar sy’n anelu at ddatblygu a chyflwyno rhaglen newydd o gymorth i wella gwytnwch a lles pobl hŷn sy’n wynebu risg: y bobl sydd mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl o ganlyniad i arwahanrwydd a gwahaniaethu, allgáu ariannol a thai gwael. Ac un o brif nodau ein cynllun ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ yw lleihau’r anghydraddoldebau a brofir gan bobl ag afiechyd meddwl. Gall gwahaniaethu atal pobl rhag cael y cyfleoedd y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol, a gall stigma wneud pobl yn amharod i ofyn am gymorth, gan waethygu’r arwahanrwydd a’r trallod y gall salwch meddwl ei achosi. Mae gennym i gyd gyfrifoldeb i ymgysylltu â phobl mewn angen, i siarad onest ac yn agored am y problemau sydd, o’u gadael heb eu datrys, yn arwain at arwahanrwydd a thrallod meddyliol, ond mae angen i ni symud y tu hwnt i drafodaethau. Nid oes amheuaeth fod y mater wedi cael sylw grymus iawn gan y cyfryngau, yn ogystal â chan dystiolaeth gan y sefydliadau a’r ymgyrchoedd sy’n gysylltiedig, ond mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i edrych ar rôl y Llywodraeth yn ogystal â ni fel unigolion ac yn ein cymunedau er mwyn mynd i’r afael â hyn.
Felly, rwyf am orffen fy ymateb i’r ddadl fer am unigrwydd ac arwahanrwydd drwy gyfeirio eto, fel y gwnaeth Joyce Watson ar ddechrau ei dadl heddiw, at yr astudiaeth ‘Trapped in a Bubble’ gan y Groes Goch Brydeinig a’r Co-op. Unwaith eto, mae’n werth ailadrodd yr hyn y mae’r astudiaeth wedi ceisio ei wneud ac yn ei gyflawni. Archwiliodd yr elfennau sy’n sbarduno unigrwydd yn y DU, gan nodi pedair ardal yng Nghymru—unwaith eto, rwy’n ailadrodd: Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Thorfaen—lle y mae pobl angen cymorth ychwanegol. Rhaid i ni i gyd ddysgu o’r astudiaeth honno yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau. Mae Mark Isherwood eisoes wedi nodi ac wedi cysylltu yn ei ranbarth ac wrth gwrs, yn Nhorfaen, mae cyfle, yn ogystal â Chasnewydd, Conwy a Sir Gaerfyrddin; maent i gyd yn etholaethau y gwn fod yr Aelodau’n awyddus i’w dilyn yn agos iawn.
O ganlyniad i ymdrechion cydweithwyr, aelodau a chwsmeriaid y Co-op, codwyd £50,000 i alluogi’r Groes Goch i roi cymorth i’r bobl sy’n profi unigrwydd ac arwahanrwydd yn yr ardaloedd hynny. Unwaith eto, mae gweld haelioni parhaus pobl mewn cymunedau yng Nghymru yn y cyfnod anodd hwn yn ariannol yn galonogol iawn. Ond rwy’n credu hefyd fod yr ysbryd hwn o haelioni yn dangos yn glir fod yn rhaid i’r Llywodraeth—Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol—nid yn unig ddarparu ond datblygu strategaeth genedlaethol sy’n croesi pob portffolio adrannol er mwyn ein helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac i ddwyn ynghyd rai o’r elfennau o’r camau y mae’r Llywodraeth eisoes wedi’u rhoi ar waith i wneud yn siŵr eu bod yn edrych ar hyn o safbwynt strategol a bod yn glir hefyd ynglŷn â’r hyn y gall ein partneriaid ei ddarparu. Ac rwy’n meddwl bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn gwirionedd yn darparu’r fframwaith hwnnw o ran pa gamau y gellir eu cymryd, ac rwy’n meddwl bod yr egwyddor allweddol gyntaf, sef canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar, yn gwbl allweddol o ran mynd i’r afael â phroblem unigrwydd ac arwahanrwydd.
Ar y diwedd un, hoffwn ddiolch i Joyce Watson am grybwyll gwaith arloesol y diweddar Jo Cox AS a’r ffaith ei fod yn awr yn cael ei ddatblygu gan ASau benywaidd Llafur a Cheidwadol yn San Steffan, ac fe fyddwn ni, rwy’n siŵr, yn ymwneud â’r gwaith hwnnw. O ran Jo Cox, roedd y frwydr yn erbyn unigrwydd yn rhan bwysig iawn o’i gwaith ysbrydoledig fel AS: ei hymgyrch ‘Gobaith nid casineb’. Mae mwy sy’n ein huno nag sy’n ein gwahanu, ac rwy’n credu mai dyma’r polisi a’r athroniaeth lle y bydd pobl yng Nghymru yn disgwyl i ni uno er lles pawb yn unol â hynny.