<p>Gwyliau Haf yr Ysgolion</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:21, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae llawer o grwpiau, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Trussell, wedi nodi mater newyn gwyliau, pan fo’r plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u rhieni yn aml yn mynd heb fwyd yn ystod gwyliau hir yr haf. Yn wir, dywed yr elusen fod y galw yn ei 35 o fanciau bwyd yng Nghymru ar ei uchaf yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Gall darparu’r cyllid hwn ar gyfer clybiau hwyl a chinio ledled Cymru chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r sgandal fod plant yng Nghymru yn mynd yn llwglyd, ond sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cymorth hwnnw’n cyrraedd y rhai sydd fwyaf o’i angen?