Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 11 Ionawr 2017.
Rwy’n falch iawn o’r cynllun hwn ac er fy mod yn cydnabod nad yw £500,000 yn swm enfawr o arian, mae’n arian sydd i’w groesawu’n fawr, a gwelaf ei fod ar gyfer eleni ac eleni yn unig. Felly, fy nghwestiwn yw fy mod yn gobeithio y gallwch barhau â hyn drwy gydol y Cynulliad hwn. Rydych yn sôn am y cyfoethogi parhaus y mae plant yn y cymunedau yn ei gael drwy’r clybiau hwyl hyn fel nad ydynt yn llithro’n ôl ac yn colli’r holl fomentwm a enillwyd yn ystod tymor yr ysgol. A wnewch chi edrych hefyd ar gymunedau ynysig lle nad oes llawer iawn yn digwydd oherwydd eu natur wledig, er mwyn i’r plant ifanc hynny gael yr un cyfle’n union â phlant sy’n byw mewn ardaloedd eraill?