Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 11 Ionawr 2017.
Fel y gwyddoch, Andrew—ac O! nad rhoi losin yn eich ceg cyn gofyn cwestiwn fyddai’r unig syniad gwael a gawsoch erioed, neu’n wir, y rhoesoch wybod i’r Siambr amdano—[Chwerthin.] Os caf ddweud, rydym yn gweithio’n agos iawn ar draws y portffolios i sicrhau bod gennym ymagwedd gydgysylltiedig tuag at hyn. Mae potensial gan y clybiau bwyd a hwyl sy’n gweithredu mewn ysgolion i effeithio ar holl blant Cymru. Mae’r cynnig gofal plant yn ymwneud â chyfle i’n plant ieuengaf oll. Mae’r clybiau hyn yn agored i blant oed cynradd a phlant oed uwchradd, felly er y gallai fod peth gorgyffwrdd, ni fwriedir i hyn fod yn rhan o’r cynllun hwnnw; mae’n ychwanegol at y cynnig gofal plant a fydd ar gael.