<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 11 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:29, 11 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dangosodd canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr fod system addysg Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU a’n bod oddeutu gwaelod y tabl rhyngwladol ar gyfer llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth. Fe wyddoch gystal â minnau nad yw hynny’n ddigon da, ac rydym yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Mae gwyddoniaeth, yn arbennig, wedi gwaethygu, gyda sgoriau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr wedi gostwng ym mhob prawf ers 2006. Pa gamau rydych yn eu cymryd i wrthdroi’r dirywiad mewn gwyddoniaeth yng Nghymru?