Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 11 Ionawr 2017.
Yn amlwg, swyddi parhaol, gydag athrawon sy’n adnabod eu myfyrwyr ac yn adnabod eu dosbarthiadau a’u hysgolion yn dda, yw’r ffordd y byddem yn ei ffafrio ar gyfer staffio ein hysgolion. Fodd bynnag, mewn system hunanwella i ysgolion, fe wyddom hefyd ein bod yn awyddus i rai o’n hathrawon symud o un sefydliad i’r llall er mwyn iddynt allu rhannu arferion gorau. Bydd yna adegau pan fydd yn hollol briodol cael absenoldeb wedi’i gynllunio o’r gwaith at ddibenion hyfforddi—secondiad, er enghraifft, i athrawon ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg—ond mae angen gwneud yn siŵr hefyd ein bod yn rheoli absenoldeb wedi’i gynllunio o’r fath a bod ysgolion yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, ceir adegau pan fydd staff yn sâl, yn union fel y bydd pob un ohonom weithiau’n mynd yn sâl, ac unwaith eto, mae angen i ysgolion reoli hynny’n briodol.