Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch. Mae fy nghwestiynau i Weinidog y Gymraeg. Roeddech chi, ddydd Gwener diwethaf, yn siarad ar y cyfryngau ac yn sôn eich bod chi’n credu bod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhy gymhleth a bod angen adolygu’r ffordd y caiff y safonau iaith eu dylunio a’u gweithredu. A fedrwch chi ymhelaethu ychydig ar y safbwynt yna, os gwelwch yn dda?