Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 11 Ionawr 2017.
Yn dilyn cwestiwn Sian Gwenllian i Alun Davies yn gynharach, rydw innau hefyd wedi bod yn edrych ar y strategaethau addysg Gymraeg yn ardal ERW, ac yn benodol felly yn siroedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont. Mae’n rhaid i mi ddweud mai siomedig iawn, iawn ydy’r lefelau a’r targedau sy’n cael eu cynnig fel rhan o’r strategaethau yna. Nid ydw i’n credu y gallwn ni orbwysleisio y tanseilio hwn, yn sylfaenol. Os ydych chi’n disgwyl cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn hanner ffordd drwy’r ganrif yma, mae’n wirioneddol rhaid diwygio y strategaethau yma achos, ar ddiwedd y dydd, nid oes fawr ddim gweledigaeth yn y fan hyn i godi capasiti ysgolion cynradd Cymraeg o gwbl yn yr ardaloedd yma. Buaswn i’n dwyn perswâd a phwysau enfawr ar y Gweinidog i allu adolygu a newid hynny, os gwelwch yn dda.