Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch i chi, Nick. Bydd buddsoddiad o fwy na £1.4 biliwn ym Mand A y rhaglen ysgolion ac addysg ar gyfer yr 21ain Ganrif dros bum mlynedd y rhaglen, a fydd yn dod i ben yn 2019. Hyd yma, mae cyllid wedi’i gymeradwyo ar gyfer 127 o’r 150 o brosiectau yn y rhaglen, ac mae 102 o’r rheini naill ai wrthi’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd neu wedi cael eu cwblhau.