Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch i chi, Nick. Rwy’n falch eich bod wedi cydnabod y cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor Sir Fynwy. Mae cyllid o tua £93.4 miliwn wedi’i ymrwymo ar gyfer Sir Fynwy, gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £45.6 miliwn tuag at gyfanswm costau’r adeiladau newydd yn eich etholaeth, sy’n swm sylweddol o arian. Mae cyflwr adeilad ysgol yn un o’r ffactorau sy’n blaenoriaethu safle rhaglen adeiladu ysgol yn y rhaglen. Felly, mae safon yr adeilad ysgol a’i gyflwr gwael yn ffactor pwysig. Dylid cofio nad yw asbestos yn creu risg os caiff lonydd a’i gadw yn ei le a’i reoli’n ddigonol, ond fel y dywedais, mae awdurdodau lleol unigol yn cynnal arolwg ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynorthwyo yn y broses honno i edrych ar gyflwr adeiladau ysgol, ac mae hynny’n ffactor pwysig wrth ennill cymeradwyaeth ar gyfer cais o dan raglen ysgolion yr 21ain Ganrif.