Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 11 Ionawr 2017.
Roeddwn i eisiau mynd ymlaen at ochr arall y ddadl a gwneud yn siŵr hyd yn oed pan soniwn am ordewdra nad ydym yn annog pobl i fynd y ffordd arall tuag at ddatblygu anhwylderau bwyta. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl sydd wedi cael problemau gyda’u pwysau, sydd wedi bod yn ordew, ac yna maent wedi mynd i’r pegwn arall. Felly, os caf fi ychwanegu hynny at y ddadl yma heddiw.