Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser i symud y gwelliant yma sydd yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau’n ymwneud â hysbysebu cynnyrch o’r fath yn faterion nad ydynt wedi’u datganoli ac yn gresynu bod Llywodraethau dilynol y Deyrnas Unedig wedi methu â defnyddio’r pwerau hyn i fynd i’r afael â gordewdra. Dyna beth mae ein gwelliant ni yn ei ddweud. Wrth gwrs, rydym yn mynd i’r afael yn y fan yna efo’r agenda ataliol yn y maes yma, drwy gydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra. Wrth gwrs, mae eisiau mynd i’r afael efo’r agenda ataliol ac, fel yr oeddem yn sôn yn y pwyllgor iechyd y bore yma yng nghyd-destun y Bil iechyd cyhoeddus, mae yna bethau y gellid eu gwneud yn nhermau safonau maeth y bwyd rydym ni’n ei fwyta, yn ogystal â hygyrchedd gwell i ymarfer corff. Wrth gwrs, mae yna bosibiliadau trethi ar siwgr a diodydd sydd yn llawn siwgr, a hefyd mae yna le i drethu i gael gweld realiti isafswm pris alcohol hefyd. Mae’r materion hyn i gyd yn achosi gordewdra. Oes, mae yna agenda addysg, wrth gwrs, yn naturiol, ond mae yna le cryf hefyd i fod yn deddfu er mwyn gwthio’r agenda addysgiadol ymlaen.
Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r rhain y tu allan i’n gallu ni yma yn y Cynulliad, ond lle mae’r gallu i fyny yn San Steffan, nid oes yna rhyw lawer o awydd i fynd i’r afael efo’r agenda ataliol yna. Achos nid oes dwywaith, mae angen cydnabod bod y diwydiant bwyd a diod yn hynod bwerus yn y math hwn o beth, ac yn gallu dylanwadu yn drwm iawn. Rydym ni’n gresynu gweld gwanhau ar y safonau sy’n dod o San Steffan yn ddiweddar gogyfer hybu’r gwaith ataliol sy’n mynd ymlaen yn y mater yma o ordewdra.
Mae deiet yn rhan bwysig o’r mater yma ynglŷn â gordewdra. Rydw i’n derbyn, yn naturiol, y pwynt a wnaeth Bethan wrth fy ochr i. Hefyd, mae ffitrwydd hefyd yn rhan arall o hyn. Ond, wrth gwrs, mae hefyd eisiau bod yn synhwyrol ynglŷn â hynny, ac mae eisiau ei gwneud hi’n hawdd i bobl allu dod yn fwy ffit. Mae angen cerdded dim ond 10,000 o gamau bob dydd i gyrraedd lefel o ffitrwydd sy’n gallu dylanwadu’n ffafriol ar eich iechyd chi—10,000 o gamau. Rydym ni i gyd yn gallu gwneud hynny—y rhan fwyaf ohonom ni—yn fan hyn drwy jest defnyddio’r grisiau y rhan fwyaf o’r amser ac nid bod yn wastadol yn y lifftiau. Nid wyf i’n edrych ar neb yn benodol yn y fan yma, ond 10,000 o gamau yw e. Nid oes angen mynd—. Rwy’n deall beth mae’r Dirprwy Lywydd yn ei feddwl am hyn bob tro rydw i’n ei godi, ond petai ffitrwydd yn dablet—. Mae ffitrwydd yn golygu gostwng 30 y cant o’ch pwysau chi, ac os ydych chi’n ffit, mae lefel eich colesterol chi 30 y cant yn is ac mae’ch pwysau gwaed chi 30 y cant yn is. Petai hwnnw’n dablet, buasai pawb yn gweiddi arnom ni fel meddygon i fod yn ei ragnodi fe, ond, wrth gwrs, nid ydy ffitrwydd yn dablet, ac felly mae gofyn inni wneud rhywbeth ynglŷn â fe.
Hefyd, ar ddiwedd y dydd, mae yna rai pobl efo gordewdra nad ydym ni’n gallu gwneud dim byd drostynt drwy dabledi neu’r holl ffitrwydd ac ati. Mae yna rhai pobl sydd yn dew iawn, iawn ac mae angen gwell darpariaeth ar y rheini yng nghyd-destun llawdriniaeth bariatrig yma yng Nghymru. Rwy’n credu, ar y cyfrif diwethaf, mai dim ond tri llawfeddyg sydd yn arbenigo yn y maes yma o gael llawdriniaeth benodol i gael gwared â phwysau mawr iawn mewn unigolion. O gofio bod gan dros 50,000 o drigolion Cymru BMI o fwy na 40, sydd yn golygu eich bod chi’n beth maen nhw’n ei alw’n ‘morbidly obese’, ac mae yna ganran hefyd sydd efo BMI sydd yn fwy na 50, sydd yn golygu eich bod chi’n ordew tew iawn, ar ddiwedd y dydd mae’r bobl yna wedi ffaelu pob math o driniaethau ac ati a phob math o gyngor, felly mae angen i rywun—llawfeddyg—wneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r broblem yna. Nid yw’r gwasanaethau, yn sylfaenol, ar gael. Fel rydw i’n ei ddweud, tri llawfeddyg sydd yma yng Nghymru sy’n gallu darparu’r gwasanaeth yna ac mae’r galw amdano fe yn sylweddol yn fwy. Diolch yn fawr.