Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 11 Ionawr 2017.
Mae’r fenter a ddisgrifiwch yng Nghasnewydd—nid wyf wedi cael cyfle eto i ddod i ymweld, ond buaswn yn awyddus iawn i wneud hynny gan fy mod yn gwybod fod honno’n enghraifft dda iawn o bartneriaid yn dod at ei gilydd er mwyn ymdrin â gweithgarwch corfforol a llesiant ac iechyd yn ehangach.
O ran y bond lles, mae’r prosiect hwn ar gam cynnar iawn o ran y cysyniad ac rydym yn gweithio gyda swyddogion, unwaith eto ar draws gwahanol adrannau’r Llywodraeth, i ddwyn ynghyd y weledigaeth ar gyfer y bond lles. Byddwn yn sicr o fod mewn sefyllfa i ddweud mwy am hynny maes o law.
Mae mynd i’r afael â gordewdra, fodd bynnag, yn galw am ymrwymiad gennym ni yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Llywodraeth y DU a’r diwydiant bwyd ei hun. Mae llawer ohono’n dibynnu ar bobl eu hunain yn ein cyfarfod hanner ffordd a chymryd y cyfrifoldeb personol hwnnw. Ond i gefnogi hyn, mae angen i ni greu’r amgylchedd cywir, lle y mae dewis bwydydd a diodydd iachach yn opsiwn hawdd a lle nad oes rhwystrau i fod yn weithgar yn gorfforol. Mae angen hefyd i ni rymuso unigolion drwy sicrhau eu bod yn meddu ar ddigon o sgiliau, gwybodaeth ac ysgogiad i wneud y dewisiadau cywir.
Gan ymateb yn benodol i welliant Plaid Cymru, byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i roi camau llymach ar waith mewn perthynas â hyrwyddo bwydydd afiach i blant yn enwedig. Rydym yn monitro datblygiad yr ardoll siwgr ar ddiodydd meddal yn agos a’r camau sy’n cael eu datblygu i leihau siwgr drwy dargedau gwirfoddol y diwydiant bwyd. Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y rhain wedi gweithio o ran cyfyngu ar halen, ond os nad yw’n llwyddiannus ar gyfer siwgr, yna byddwn yn sicr yn ystyried galw am ddull gorfodol o weithredu.
O fewn ein cymhwysedd, rydym yn parhau i weithio drwy ddulliau sy’n seiliedig ar leoliadau, gan gynnwys drwy ysgolion, ysbytai a gweithleoedd, ac rydym yn gweithredu’r dulliau deddfwriaethol drwy Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a’n safonau maeth. Rydym hefyd yn defnyddio marchnata cymdeithasol ac ymgyrchoedd eraill, megis 10 Cam i Bwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae yna nifer o gynlluniau gwahanol yn cael eu datblygu ar lefel gymunedol, ac rwy’n credu bod yn rhaid i’r rhain sicrhau rhywfaint o hyblygrwydd, digon i gydnabod gwahanol anghenion ein cymunedau lleol gwahanol. Ni fuasai gennyf ddigon o amser, mewn gwirionedd, yn yr oddeutu pedwar munud sydd gennyf i siarad yn fanwl am bob un o’r rhain heddiw, ond rwyf wedi eu disgrifio mewn datganiadau a dadleuon blaenorol ac rwy’n fwy na pharod i roi manylion pellach yn y dyfodol, ond rwy’n cydnabod mai un peth nad wyf wedi sôn amdano’n fanwl yn y Siambr o’r blaen yw’r llwybr gordewdra ar gyfer Cymru gyfan, sy’n nodi ein dull o fynd ati i atal a thrin gordewdra, a chafodd ei grybwyll gan nifer o siaradwyr heddiw. Mae’n cynnwys gofynion sylfaenol ar gyfer gwasanaethau y dylai byrddau iechyd fod yn gweithio tuag atynt, ac roeddwn eisiau rhoi sicrwydd i’r Aelodau fy mod wedi herio’r byrddau iechyd yn bersonol drwy fy nghyfarfodydd â’r cadeiryddion i gyflymu’r broses o weithredu’r llwybr hwnnw, yn enwedig ar lefel 3 a lefel 4 ac yn amlwg buaswn yn awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau maes o law hefyd.
Rwy’n gobeithio, mewn gwirionedd, fod yr hyn rwyf wedi gallu ei nodi wedi rhoi sicrwydd i’r Aelodau fod gordewdra a mynd i’r afael â gordewdra yn bendant yn ffocws allweddol i’r Llywodraeth hon, ac rydym yn rhoi’r seilwaith angenrheidiol yn ei le ar gyfer gweithio mewn ffordd lawer mwy systematig ac effeithiol ar draws adrannau a phortffolios Llywodraeth er mwyn mynd i’r afael â hyn.