Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, bawb, am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Rwyf fi, fel Oscar, yn sefyll yma heb fod mewn sefyllfa o gryfder yn union, ond rwyf am gyfrannu a chrynhoi’r drafodaeth heddiw. Cawsom ddadl Aelod unigol ychydig cyn toriad y Nadolig, os cofiwch, a gosodwyd y cefndir ar gyfer y ddadl hon bryd hynny. Agorodd Jenny Rathbone y drafodaeth honno gyda thair ffordd o fynd i’r afael â’r hyn rwy’n meddwl ein bod i gyd yn derbyn bellach sy’n broblem gynyddol gydag effeithiau hirdymor, cyflwr y mae cymdeithas yn tueddu i’w ddarlunio drwy gyfrwng ffasiwn, drwy ddelwedd y corff, drwy ddeietau mympwyol—y mathau o bethau roedd Caroline Jones yn sôn amdanynt. Ac os nad yw’r cylchgronau a brynwn a’r rhaglenni a wyliwn a’r hysbysebion a welwn yn dechrau newid y naratif hwnnw, yna o ddifrif, rwy’n meddwl eich bod chi fel Llywodraeth a ni fel Cynulliad yn mynd i wynebu brwydr anodd yn ceisio cael ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth achlysurol yn seiliedig ar anogaeth i gael unrhyw effaith o gwbl. Ac ar yr un pryd, mae pobl o bob oed yn parhau i fod yn agored i ochr dywyll y cylchgronau sgleiniog hynny a chyfryngau cymdeithasol a’r rhaglenni Sky Living rydym i gyd yn gwybod amdanynt, fel ein bod yn y pen draw yn wynebu’r math o bethau—neu’r bygythiadau, gawn ni ddweud—y soniodd Bethan Jenkins amdanynt yn gynharach yn y ddadl, yn ei hymyriad i Angela.
Rwy’n ofni mai dyna pam nad wyf yn cefnogi defnyddio anghymeradwyaeth gyhoeddus o fwyd a bwyta fel offeryn ar gyfer newid patrymau ymddygiad y boblogaeth fel rydym wedi ei wneud, efallai, gydag ysmygu ac fel rydym yn dechrau ei wneud yn awr gydag alcohol. Mae’n bendant yn galw am ymagwedd hollol wahanol. Ni ellir anwybyddu’r un o’r syniadau a glywsom heddiw. Maent oll wedi bod yn syniadau gwirioneddol dda; clywsom lawer ohonynt o’r blaen, ond mae’n rhaid i ni wynebu realiti mewn rhyw ffordd, rwy’n meddwl, o ran sut olwg y gallai fod ar y pethau hyn mewn bywyd go iawn. Mae angen ewyllys wleidyddol ddiffuant a chadarn yma yn ogystal ag addysg gyhoeddus er mwyn torri drwodd, neu wneud yn siŵr nad yw’r syniadau gwirioneddol dda hyn yn cael eu dal yn ôl gan bethau nad ydynt yn gweithio, a rhoddaf rai syniadau i chi ynglŷn â’r hyn rwy’n siarad amdano.
Felly, er enghraifft, rwy’n meddwl ein bod i gyd, yn ein tro, dros y pum mlynedd diwethaf, wedi canmol y syniad o ailgyflwyno economeg y cartref, a soniodd Angela heddiw am ragor o le i addysg gorfforol ar gwricwlwm yr ysgol, ond a oes yna ewyllys wleidyddol i greu lle ar y cwricwlwm hwnnw, neu hyd yn oed i greu diwrnod ysgol hwy i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei gynnwys? Mae’r cynlluniau ysgolion iach amrywiol—roeddwn yn hoff iawn, mewn gwirionedd, o’r dystiolaeth a roesoch yn y ddadl flaenorol, Jenny, am brofiad Sir y Fflint a’r hyn sy’n digwydd yno, ond wyddoch chi, rwy’n tueddu i feddwl, pa mor wybodus bynnag yw person ifanc yn ei arddegau, pa mor gynnar bynnag y dywedwn fod bwyta afalau yn dda, fel rydym yn ei wneud yn yr ysgolion cynradd yn eithaf effeithiol, rhowch chi gyfle i berson ifanc cyffredin yn ei arddegau i fynd allan amser cinio a bachu McDonalds a dyna fydd yn ei wneud. Felly, a oes ewyllys wleidyddol i ddweud, ‘A dweud y gwir, ni ddylai neb adael yr ysgol yn ystod amser cinio’? Nid wyf o reidrwydd yn argymell hynny, ond mae’r rhain yn gwestiynau rwy’n credu y bydd yn rhaid i ni eu hateb er mwyn gwneud i’r pethau hyn ddigwydd.
Treth siwgr: pa mor uchel rydych chi’n mynd? Yn drist iawn, rwyf wedi olrhain cost bar siocled Mars, o’r adeg pan gyflwynwyd y system ddegol, o 3c i 65c dros oes. Mae maint Mars wedi crebachu’n sylweddol. Rwy’n dal i’w prynu. Gwn eu bod yn ddrwg i mi. Pa mor ddrud sy’n rhaid i chi eu gwneud er mwyn gwneud i bobl roi’r gorau i’w prynu? Ac mae’r cwestiwn hwnnw’n bwysig mewn cymunedau tlotach lle y mae mynediad at amrywiaeth o siopau’n wirioneddol anodd.
Ar ymarfer corff, Dai, fel person byr, mae’n debyg fy mod yn cymryd llawer mwy o gamau dros bellter penodol na Nathan Gill yma. [Chwerthin.] A wyddoch chi, rydych yn llygad eich lle ynglŷn â cherdded: mae am ddim, ond mae unigolion swrth heb ddigon o amser—ac nid wyf yn siarad amdanaf fy hun hyd yn oed y tro hwn—yn colli awydd i gerdded oherwydd pethau syml fel y tywydd ac mewn perthynas â phobl iau, oherwydd diogelwch. Mae pobl wedi bod yn y Cynulliad hwn ers digon o amser i wybod fy mod wedi siarad am ddiogelwch. [Torri ar draws.] Fe soniaf am feicio mewn eiliad, ond rwy’n brin o amser, iawn? Felly, yn olaf, yr hyn roeddwn eisiau ei ddweud am deithio llesol, ac am feicio hefyd, yw hyn: gwnewch ‘ddiogelwch yn gyntaf’ yn brif elfen, oherwydd os na wnewch hynny, nid yw’n mynd i weithio.