Part of the debate – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 17 Ionawr 2017.
Wel, gwnaed y penderfyniad i alluogi taliadau i gael eu gwneud yn ddi-dor i gyn-dderbynwyr yng Nghymru. Penderfyniad dros dro oedd hwn, a fwriadwyd i bara tan 31 Mawrth eleni, tra ein bod yn ystyried pa drefniadau fyddai’n briodol i ddarparu cymorth yn y tymor hwy. Ac, yn dilyn cyngor gan y grŵp cynghori rhanddeiliaid, sydd yn cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl yng Nghymru, rydym ni’n cyflwyno, o fis Ebrill eleni, trefniant pontio dros ddwy flynedd, sy’n golygu y bydd cymorth yn y dyfodol trwy ddarpariaeth arferol o ofal cymdeithasol.