Part of the debate – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 17 Ionawr 2017.
Hoffwn dynnu sylw at bwysigrwydd iaith arwyddion i'r gymuned pobl fyddar. I lawer o bobl fyddar, mae'n ddull pwysig o gyfathrebu. Efallai y dylwn i ddatgan buddiant gan fod fy chwaer yn hollol fyddar. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gefnogi creu TGAU iaith arwyddion iaith gyntaf, ac iddi gael ei thrin yn gyfartal â Chymraeg a Saesneg iaith gyntaf ar lefel TGAU?