<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae dau reswm: yn gyntaf oll, rydym ni eisiau diogelu hawliau gweithwyr. Mae ei blaid ef—ei blaid ef—eisiau cael gwared ar gymhwysedd y Cynulliad hwn dros hawliau a rheoliadau cyflogaeth. Bai ei blaid ef yw hyn. Ni fyddai'n rhaid i ni gyflwyno hyn ar y cyflymder yr ydym ni'n gorfod ei wneud pe na byddai am Fil Cymru. Felly, ni all ef eistedd yn y fan yna a cheisio honni nad yw’n ddim i’w wneud ag ef. A byddwn yn sefyll dros hawliau gweithwyr wrth i’w blaid ef bwyso i lawr arnynt, a dyna pam y byddwn ni’n cyflwyno Bil undebau llafur i'r Siambr hon, a byddwn yn gofyn am gefnogaeth gan y Cynulliad hwn i ddiogelu hawliau gweithwyr, a gadewch i ni weld beth fydd yn digwydd, os bydd y cymhwysedd yn newid. Ond byddwn yn sefyll dros weithwyr Cymru, hyd yn oed wrth i’w blaid ef eu sathru i lawr.