1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 17 Ionawr 2017.
Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, fis Hydref diwethaf, cynhaliwyd un o'r dadleuon mwyaf angerddol yn y Siambr hon, ac roedd y siambr i fyny'r grisiau yn llawn pobl â buddiant yn y gymuned awtistiaeth ac eisiau gweld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno gan eich Llywodraeth. Cawsom ein harwain i gredu bod consensws ynghylch hyn, yn etholiad y Cynulliad—bod yr holl bleidiau gwleidyddol yn credu y dylai Bil awtistiaeth gael ei roi gerbron y Cynulliad i wella hawliau i bobl sy'n dioddef gydag awtistiaeth. Ddoe, cyflwynasoch eich Bil Undebau Llafur (Cymru). Bydd llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd deall pam yr ydych chi’n atal cyflwyniad Bil awtistiaeth a allai wella mynediad at wasanaethau yn fawr a rhoi hawl cyfreithiol i bobl sydd â diagnosis o awtistiaeth gan ddewis yn hytrach y Bil undebau llafur yr ydych chi wedi penderfynu ei gyflwyno. Pam ydych chi wedi blaenoriaethu'r Bil undebau llafur yn hytrach na phobl ag awtistiaeth?
Mae dau reswm: yn gyntaf oll, rydym ni eisiau diogelu hawliau gweithwyr. Mae ei blaid ef—ei blaid ef—eisiau cael gwared ar gymhwysedd y Cynulliad hwn dros hawliau a rheoliadau cyflogaeth. Bai ei blaid ef yw hyn. Ni fyddai'n rhaid i ni gyflwyno hyn ar y cyflymder yr ydym ni'n gorfod ei wneud pe na byddai am Fil Cymru. Felly, ni all ef eistedd yn y fan yna a cheisio honni nad yw’n ddim i’w wneud ag ef. A byddwn yn sefyll dros hawliau gweithwyr wrth i’w blaid ef bwyso i lawr arnynt, a dyna pam y byddwn ni’n cyflwyno Bil undebau llafur i'r Siambr hon, a byddwn yn gofyn am gefnogaeth gan y Cynulliad hwn i ddiogelu hawliau gweithwyr, a gadewch i ni weld beth fydd yn digwydd, os bydd y cymhwysedd yn newid. Ond byddwn yn sefyll dros weithwyr Cymru, hyd yn oed wrth i’w blaid ef eu sathru i lawr.
Rwy'n credu mai’r Blaid Geidwadol sy’n cyflawni ar ran gweithwyr Cymru, fel y mae ar ran gweithwyr y DU, trwy ddarparu economi sydd wedi cyflwyno’r cyfraddau cyflogaeth, cyfleoedd a ffyniant mwyaf erioed. Ond rwy’n sylwi na wnaethoch chi sôn am y rhesymau pam y gwnaeth eich Llywodraeth rwystro cyflwyniad Bil awtistiaeth, yn hytrach na'r Bil undebau llafur, lle’r oedd pobl i fyny'r grisiau ar ôl y ddadl hon yn wirioneddol yn eu dagrau ac wedi’u ffieiddio gan y canlyniad gan y Llywodraeth Lafur hon a'r brad, fel yr oedden nhw’n ei weld, o ymrwymiad eich Llywodraeth yn etholiad y Cynulliad parthed y geiriau a siaradwyd yn y Siambr hon yn y ddadl honno. Beth sy'n afresymol—beth sy’n afresymol yn y Bil Undebau Llafur am hysbysu cyflogwyr pan fo streic yn mynd i gael ei galw? Beth sy’n afresymol am geisio trothwy i gael mwyafrif o bobl sy'n cymryd rhan yn y streic honno? Nid oes unrhyw beth yn afresymol am hynny. Eich plaid chi sy’n mynd â ni yn ôl i’r 1970au ac yn symud oddi wrth grymuso gweithwyr i lwyddo yn y wlad hon. Felly, beth sy’n afresymol yn y Bil Undebau Llafur hwnnw sy'n mynnu bod eich Llywodraeth yn cyflwyno darn o ddeddfwriaeth ar wahân?
Mae'n atgas bod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio defnyddio pobl sy'n ymdrin â phobl ifanc ag awtistiaeth, gan ddefnyddio hynny fel ffordd i ymosod ar weithwyr—[Torri ar draws.] —ymosod ar weithwyr yng Nghymru a gweddill Prydain. Y gwir amdani yw bod diweithdra yn is yng Nghymru nag y mae yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon oherwydd gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Mae'n sôn am drothwy. Nid wyf yn cofio iddo ddadlau dros drothwy yn y refferendwm Brexit. Ydych chi'n cofio hynny? Nid wyf yn cofio hynny o gwbl. Nid oedd trothwyon yn bwysig bryd hynny. Nid wyf yn credu mewn trothwyon. Nid oeddwn i’n credu mewn trothwy ar gyfer y refferendwm Brexit. Nid wyf yn credu mewn trothwy cyn belled ag y mae pleidleisio dros streic yn y cwestiwn. Yr hyn yr wyf i’n credu ynddo yw ein bod ni’n sefyll yn gadarn dros hawliau gweithwyr yng Nghymru, er gwaethaf yr hyn sy'n cael ei orfodi arnyn nhw gan Lywodraeth Dorïaidd elyniaethus. Roedd hanner cant o'i ASau ei hun—50 o’i ASau ei hun—yn galw am i streiciau gael eu gwahardd yn y sector cyhoeddus. Beth, ydych chi'n mynd i arestio streicwyr nawr, ydych chi? Mynd yn ôl i'r 1970au—byddai ef yn mynd â ni yn ôl i’r 1930au. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']
Rydych chi’n sicr eisiau cwrw a brechdanau yn ôl ym Mharc Cathays, onid ydych chi, Brif Weinidog? Y bobl yr ydych chi’n eu had-dalu yw ysgrifenyddion cyffredinol yr undebau sydd wedi ariannu Llafur gyda £11 miliwn ers i Jeremy Corbyn ddod yn arweinydd. Heriais i chi i gyflwyno’r Bil awtistiaeth hwnnw, yr oedd pobl wir yn gofyn amdano. Nid wyf wedi clywed pobl yn galw am Fil undebau llafur yma yng Nghymru oherwydd eu bod nhw’n teimlo bod gwahaniaethu yn eu herbyn. Y perygl—[Torri ar draws.]—Y perygl gwirioneddol yw y byddwch chi’n cyflwyno tâl rhanbarthol trwy gyflwyno’r Bil hwn, gan y byddwch chi’n gostwng y trothwy ar gyfer streic yma yng Nghymru, o’i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gan amlaf, pan fydd streic yn cael ei galw, mae'n ymwneud â thelerau ac amodau a chyflog. Felly, chi fydd yn arwain y ffordd o ran tâl rhanbarthol os gwnewch chi barhau i wthio’r Bil undebau llafur hwn drwy'r Cynulliad. Ond, hefyd, dylech chi ymddiheuro i'r bobl yn y gymuned awtistiaeth— [Aelodau'r Cynulliad: 'O..']—sy'n teimlo eu bod wedi cael eu siomi gennych chi a'ch rhaglen ddeddfwriaethol.
Mae'n atgas—defnyddiaf y gair yna eto—i awgrymu y dylid gosod y bobl hynny sy’n ymdrin ag awtistiaeth ac yn ymdrin â’r bobl hynny sydd ag awtistiaeth ac yn gofalu amdanynt, yn erbyn pobl sydd eisiau eu hawliau fel gweithwyr. Onid yw'n nodweddiadol mai agwedd y Torïaid, fel y bu erioed, yw, 'Gosod pobl yn erbyn ei gilydd. Rhannu a rheoli.' Byddwn yn gwneud popeth a allwn i helpu'r bobl hynny ag awtistiaeth a'r bobl hynny sy'n gofalu am bobl ag awtistiaeth. Rydym ni wedi gwneud hynny trwy ddeddfwriaeth flaenorol. Rydym ni wedi gwneud hynny drwy'r cyllid yr ydym ni wedi ei gyflwyno. Nid ydym wedi torri 6 y cant ar wariant ar wasanaethau cymdeithasol fel y mae ef a'i blaid wedi ei wneud yn Llundain. Oedi wrth drosglwyddo gofal—wedi cynyddu yn Lloegr, ac achoswyd trychineb y GIG yn Lloegr ar hyn o bryd gan ddiffyg gwariant ar wasanaethau cymdeithasol. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am sefyll dros hawliau gweithwyr yng Nghymru a'u cynrychiolwyr, ac os nad yw'n hoffi hynny, gall fynd i esbonio wrth bleidleiswyr yng Nghymru pam mae eisiau i bobl fod mewn sefyllfa lle nad yw’r gallu ganddyn nhw mwyach i arfer eu hawl democrataidd i fynd ar streic. Mae’n clebran yn ddi-baid, onid ydyw? Mae’n clebran yn ddi-baid fel ci heb ei hyfforddi yng nghefn y Siambr yn y fan yna—
Bu llawer o glebran yn ystod y cwestiwn ac ateb hwn.
O'n safbwynt ni, byddwn yn sefyll yn gadarn dros hawliau gweithwyr, hyd yn oed os nad oes ots ganddo ef amdanynt.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Ar 15 Rhagfyr y llynedd, cyhoeddwyd ffigurau ar berfformiad a gwerth economi Cymru. Nawr, nid ydynt wedi cael llawer iawn o sylw, ond maen nhw’n dangos bod economi Cymru yn 71 y cant o fynegai'r DU erbyn hyn, i lawr o 71.4 y cant yn 2014. Nawr, mae angen i ni fod yn cau’r bwlch cyfoeth hwnnw ac nid llywyddu dros ei ehangiad. Ar wahân i'r risg sy'n ein hwynebu o ran colli cyllid a dderbynnir ar hyn o bryd gan gymunedau o amddifadedd, ceir perygl hefyd i fusnesau a swyddi o'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n hanfodol o safbwynt diogelu swyddi bod Cymru yn parhau i gymryd cymaint ag y gallwn o ran yn y farchnad sengl. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â Phlaid Cymru ei bod er budd cenedlaethol Cymru i barhau i gymryd rhan lawn yn y farchnad sengl heb dariffau na rhwystrau?
Mae'n safbwynt sydd gennym ni ers misoedd lawer. Yr ymadrodd yr ydym ni wedi ei ddefnyddio yw 'mynediad llawn a dilyffethair'. Mae cymryd rhan yn y farchnad sengl fwy neu lai yn gyfystyr â hynny. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei osgoi yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yw unrhyw beth sy'n amharu ar allu busnesau i allforio o Gymru, ac felly’n ei gwneud yn anoddach iddyn nhw gyflogi pobl. Mae'n iawn i ddweud bod angen i CMC gynyddu. Y ffordd i wneud hynny yw buddsoddi mwy fyth mewn sgiliau. Pan fydd gan bobl fwy o sgiliau, gallant ddenu buddsoddiad yn well sy'n arwain at swyddi sy'n talu'n well. Dyna'r union gyfeiriad yr ydym ni eisiau symud iddo. Gwrandewais i—ac rwy'n siŵr ei bod hithau wedi gwneud yr un fath, wrth gwrs—ar araith Prif Weinidog y DU y bore yma. Roedd rhywfaint ohoni i’w chroesawu. Rwy'n credu bod y dôn yn well. Nid oedd mor ymosodol ag y mae adain genedlaetholgar ei phlaid—plaid Theresa May—yn tueddu i’w egluro. Roedd problemau ynghylch cydnabod hawliau'r cenhedloedd datganoledig, yr oeddwn yn eu croesawu, er bod gwrthddweud wrth nodi mai Senedd Prydain sy’n penderfynu ar y cytundeb terfynol heb i’r seneddau datganoledig fynegi eu barn hwythau hefyd. Nid wyf yn cytuno â gadael y farchnad sengl. Mae angen esbonio mwy ar yr hanner i mewn, hanner allan o'r undeb tollau yma. Ac, wrth gwrs, nid yw sut y mae gennych chi reolaeth dros fewnfudo gyda ffin agored fawr erioed wedi cael ei esbonio chwaith. Felly, ceir rhywfaint o eglurder, ac nid yw’r cyfan i’w groesawu. Mae rhywfaint ohono’n well gan y Prif Weinidog, ond mae llawer o waith i'w wneud eto i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y canlyniad gorau i Gymru.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Byddai Plaid Cymru yn dadlau bod Cymru yn wynebu cynllun a luniwyd yn Llundain ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn. Rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am y cwestiwn o allforion. Ar y map hwn, dangosir y perygl i Gymru o Brexit caled yn gryf iawn, rwy’n meddwl. Economi Cymru yw'r rhan fwyaf dibynnol o'r DU ar allforion i'r UE. Economïau gweithgynhyrchu fel ein heconomi ni sy’n dibynnu fwyaf ar y farchnad honno. Rydym ni’n sôn am swyddi diwydiannol, swyddi yn y diwydiant bwyd, mewn twristiaeth, swyddi sy'n hanfodol i bobl yng Nghymru, na ellir eu rhoi mewn perygl. Nawr, rydym ni hefyd yn gwybod bod llawer o'r buddsoddiad o’r tu allan i Ewrop i mewn i Gymru wedi cael ei ddenu yma oherwydd ein sefyllfa yn y farchnad sengl. Perygl arall i'r wlad hon, y tu hwnt i golli ein sefyllfa yn y farchnad sengl, yw ein bod ni’n symud tuag at neo-ryddfrydiaeth—neo-ryddfrydiaeth eithafol—wedi’i seilio ar ddadreoleiddio a phreifateiddio, wedi’i seilio ar sathru ar hawliau gweithwyr, wedi’i seilio ar wanhau rheoliadau amgylcheddol sy'n cadw ein gwlad a’n tirwedd yn lân. Rydym ni’n wynebu colli cymaint o'r enillion a ymladdwyd yn galed i’w hennill, ac ni ddylai’r un ohonom ni fod yn barod i roi'r rheini mewn perygl yn rhwydd. Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i archwilio sut y gallwn osgoi dilyn y llwybr hwn o fandaliaeth economaidd a chymdeithasol, ac a wnewch chi hyrwyddo'r angen am gyfranogiad parhaus yn y farchnad sengl ac am y safonau uchaf posibl i weithwyr, defnyddwyr a busnesau?
Gwnaf yn wir, fel yr wyf i wedi ei wneud yn gyson ers mis Mehefin. Wrth gwrs, ni fydd unrhyw beth i atal y Cynulliad hwn rhag gweithredu cyfarwyddebau'r UE os yw'n dymuno gwneud hynny. Os yw hynny'n rhywbeth y mae'r Cynulliad eisiau ei wneud, ni fydd unrhyw waharddiad ar wneud hynny. Mater o broses ddemocrataidd yw hwn. Un o'r gwrthddywediadau a fynegwyd gan Brif Weinidog y DU oedd iddi ddweud y dylai Senedd Prydain gael pleidlais ar y cytundeb terfynol. Iawn, ond bydd llawer o hynny’n cynnwys meysydd datganoledig. Mae’n rhaid o leiaf cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol drwy'r Cynulliad hwn cyn y gall Senedd Prydain gynnal y bleidlais honno. Felly, ceir nifer o faterion y bydd angen eu datrys yn y fan yna. Roedd sylwadau’r Canghellor ddydd Sul yn peri pryder i mi, pan ddywedodd y byddai'n rhaid i fodel economaidd Prydain newid pe byddai Brexit arbennig o galed. Roedd yn sôn am ostwng treth gorfforaeth. Roedd hwnnw, rwy’n meddwl, yn ddim ond un peth allan o lawer o bethau yr hoffai eu gwneud nad ydynt yn dderbyniol i mi nac iddi hithau. Nid wyf yn credu mewn dadreoleiddio, fel y bydden nhw’n ei ddweud, y farchnad gyflogaeth. Mae hynny'n golygu sathru ar hawliau gweithwyr a thorri cyflogau gweithwyr. Nid wyf yn credu mewn dinistrio amddiffyniadau amgylcheddol sydd wedi eu rhoi ar waith, sydd wedi helpu nid yn unig o ran yr amgylchedd, ond sydd wedi helpu i hyrwyddo twristiaeth dros y blynyddoedd. Ydw, rwy’n rhannu ei phryder bod rhai yn y Blaid Geidwadol sy’n gweld hwn fel cyfle i gyflwyno syniadau asgell dde radical, heb unrhyw fath o ataliad o gwbl, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i ac, rwy'n siŵr—rwy’n gwybod—y byddai hithau’n ei wrthwynebu ar bob cyfrif.
Byddwn, Brif Weinidog, ac mae Plaid Cymru wedi datgan nad ydym ni’n barod i ymrwymo i gynllun trafod sydd wedi ei lunio gan unigolion elitaidd San Steffan os na roddir ystyriaeth i'r gweinyddiaethau datganoledig. Mae’r ddau ohonom ni’n gwybod ei bod yn gwneud synnwyr i Gymru weithio'n agos gyda'r llywodraethau datganoledig eraill. Mae’r Alban yn blaenoriaethu aelodaeth o’r farchnad sengl a’i heconomi cyn unrhyw nodau cyfansoddiadol eraill a allai fod ganddynt, ond maen nhw’n barod i gynnal refferendwm annibyniaeth os chaiff eu dewisiadau cyfaddawd eu bodloni gan Lywodraeth y DU. Mae'r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, fel y gwyddoch, yn sensitif iawn ar hyn o bryd, hefyd. A wnewch chi gadarnhau y byddwch chi’n gweithio gyda Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth nesaf Gogledd Iwerddon i sicrhau bod Prif Weinidog y DU yn cael ei rhwystro rhag bwrw ymlaen â chynllun i gael mwy o ddadreoleiddio a mwy o breifateiddio, a fyddai, wrth gwrs, yn niweidiol iawn i bobl yma yn y wlad hon?
Rydym ni’n gweithio gyda Llywodraeth yr Alban. Nid oes gennym, yn amlwg, yr un farn ar y nod yn y pen draw, fel petai, ond rydym ni’n gweithio gyda nhw ac yn siarad â nhw gyda’r bwriad o ganfod tir cyffredin lle y gallwn, ac mae hynny'n ddiplomyddiaeth synhwyrol. Mae Gogledd Iwerddon yn anoddach, oherwydd, yng Ngogledd Iwerddon, roedd gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog safbwyntiau hollol wahanol ar Brexit. Rydym ni’n gweld y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, a rhan o ddeinamig y broblem yng Ngogledd Iwerddon yw Brexit. Nid dyna’r brif broblem ar hyn o bryd, ond mae'n bodoli, oherwydd y cytundeb heddwch a roddwyd ar waith, a'r unig hunaniaeth yr oedd pobl yng Ngogledd Iwerddon yn ei rhannu oedd yr un Ewropeaidd; nid oes ganddyn nhw hunaniaeth arall maen nhw’n ei rhannu. Mae'n rhaid rheoli hynny'n ofalus iawn felly. Ond mae'n hynod bwysig, beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad yng Ngogledd Iwerddon, ein bod ni’n gallu gweithio gyda Gogledd Iwerddon a'r Alban i atgoffa Whitehall nad yw hyn yn ymwneud â swigen Whitehall yn unig; mae’n ymwneud â phob un o bedair gwlad y DU.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Mae’r Prif Weinidog yn ceisio cystadlu ag arweinydd Plaid Cymru fel rhyw fath o Jeremeia Cymru heddiw o ran dyfodol Cymru y tu allan i'r UE. Mae'n ddrwg gennyf ei glywed yn dweud ei fod yn erbyn trethi is ar fusnes, gan fod gweriniaeth Iwerddon wedi defnyddio cyfradd is o dreth gorfforaeth yn llwyddiannus iawn i ddenu nifer fawr o gwmnïau i mewn i Ddulyn, yn enwedig yn y sector gwasanaethau ariannol. Felly, mae'n ymddangos i mi yn gwbl wrthgynhyrchiol i fuddiannau Cymru i ddiystyru hyn ar gyfer y dyfodol.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog, o ran y farchnad sengl:
Nid wyf yn credu y gallwch chi gael mynediad at y farchnad sengl a dweud ar yr un pryd eich bod eisiau cael rheolaeth lawn ar fewnfudo.
Wel, dyna’n union sydd gennym ni gyda chytundeb masnach De Corea; pam nad yw hynny’n mynd i fod yn bosibl i ni ym Mhrydain?
Sut gallwch chi gael rheolaeth lawn dros fewnfudo pan fo gennych chi ffin fawr, agored gyda'r UE?
Mae'n ddrwg gen i, ni chlywais i hynna.
Sut gallwch chi gael rheolaeth lawn dros fewnfudo os oes gennych chi ffin fawr, agored gyda'r UE?
Wel, cyfeiriodd Theresa May at hyn yn ei haraith y bore yma. Roedd gennym ni ardal deithio gyffredin gyda gweriniaeth Iwerddon ymhell cyn bod yr un ohonom ni’n aelodau o'r UE. Mae hwn yn gwestiwn ymarferol y mae angen ei ddatrys, ac nid oes unrhyw reswm i feddwl na ellir ei ddatrys. Ond yr hyn y mae gennyf i ddiddordeb ynddo, o ganlyniad i—[Torri ar draws.]
Gadewch i ni ganiatáu i arweinydd grŵp UKIP gael ei glywed, os gwelwch yn dda.
Diolch i chi am eich amddiffyniad, Lywydd.
O ganlyniad i araith Theresa May amser cinio heddiw, mae hi wedi egluro nifer o faterion—nid y cwbl, rwy’n derbyn, ac mae’n sicr angen egluro mwy ar yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am yr undeb tollau—ond mae hi wedi egluro safbwynt y Llywodraeth. A all y Prif Weinidog egluro nawr: beth yn union yw polisi'r Blaid Lafur ar fudo a reolir o’r UE?
Rwyf wedi esbonio'r polisi, sef rhyddid i symud i weithio; rhywbeth tebyg i’r hyn sydd gan y Norwyaid. Mae'n cael gwared ar ofnau rhai pobl bod pobl yn symud i wlad benodol er mwyn hawlio budd-daliadau. Pa un a yw hynny’n wir ai peidio, rydym ni’n gwybod bod y dybiaeth yno. Ac mae’n safbwynt rhesymol, rwy’n credu, i'w gymryd y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn ei dderbyn. Nawr, hynny yw, mae’n iawn am y sefyllfa yn Iwerddon; mae angen ei datrys. Yn anffodus, nid oes unrhyw un yn gwybod sut i ddatrys hyn. Y gwir yw, a fy mhryder i yw—ac mae'n iawn am yr ardal deithio gyffredin—ond wedyn, am y tro cyntaf erioed mewn hanes, bydd polisïau mewnfudo hollol wahanol ar y ddwy ochr i’r ffin honno. Nid yw Iwerddon, mae'n wir, yn rhan o Schengen, ond bydd ganddi ryddid i symud. Os ydych chi eisiau dod i mewn i'r DU, ewch i Iwerddon; gallwch gyrraedd y DU heb unrhyw archwiliadau o gwbl, heb unrhyw fath o reolaeth o gwbl, a dyna yw realiti'r sefyllfa.
O ran tollau, a ydym ni’n mynd i weld felly ailddyfodiad y safleoedd tollau ar y ffin honno, a safleoedd tollau yn ein porthladdoedd yng Nghymru? Nid yw'r mater hwnnw wedi ei ddatrys o gwbl—a'r effaith y byddai hynny’n ei chael ar y trwybwn o gerbydau a phobl drwy’r porthladdoedd hynny. Yr hyn yr wyf yn ei ofni fwy na dim arall yw y bydd Gogledd Iwerddon, rywsut, yn cael gwell bargen o ran tollau nag y mae Cymru. Bydd hynny'n llywio traffig trwy Cairnryan, a thrwy Stranraer o bosibl, yn y dyfodol, ar draul swyddi ym mhorthladdoedd Cymru. Felly, beth bynnag fydd yn digwydd, mae’n rhaid i’r sefyllfa, boed hynny ym mhorthladdoedd Cymru neu ar ffin Gogledd Iwerddon, fod yr un fath er mwyn sicrhau’r driniaeth deg honno.
Wel, mae'r Prif Weinidog yn siarad am bob math o bwyntiau trosiannol, y mae’n rhaid, yn anochel, eu hystyried. Cawsom anawsterau tebyg pan wnaethom ni ymuno â’r UE tua 40 mlynedd yn ôl. Cafwyd problemau gyda'r cyfnod pontio; gellir ymdrin â’r rhain. Ond, yr hyn yr wyf i'n poeni amdano yw bod y Prif Weinidog bob amser yn edrych ar yr ochr ddu i bethau a dychmygu’r gwaethaf. Gwnaeth hyn o ran Donald Trump yn yr Unol Daleithiau—ac rwyf wedi codi hyn gydag ef sawl gwaith—pan ddywedodd fod Donald Trump yn credu yn America yn gyntaf, ac na fyddai byth yn bosibl dod i gytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau. Yr hyn sy'n amlwg yw nad yw'n mynd i fod yn bosibl i'r UE ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, ond mae Donald Trump ei hun wedi dweud yn y 24 neu 48 awr ddiwethaf y byddai'n symud yn gyflym iawn i lunio cytundeb masnach newydd gyda’r DU:
Rwy’n gefnogwr brwd o’r DU. Rydym ni’n mynd i weithio'n galed iawn i’w wneud yn gyflym a’i wneud yn iawn. Mae hynny’n dda i’r ddwy ochr.'
Oni allaf i berswadio'r Prif Weinidog i gael dim ond llygedyn o obaith ar gyfer y dyfodol?
Wel, nid wyf yn credu y bydd Llywodraeth America yn awyddus i gael cytundeb masnach rydd gydag unrhyw un sydd yn unrhyw beth heblaw cadarnhaol dros ben i’r Unol Daleithiau ac yn negyddol i unrhyw barti arall i'r cytundeb. Mae Donald Trump wedi dweud ei fod eisiau diddymu’r bartneriaeth drawsiwerydd. Mae ef eisiau diddymu cytundeb masnach Gogledd America a chael cytundeb gyda'r DU. A yw hynny'n golygu, felly, y byddwn ni’n gweld cig eidion yn llawn hormonau yn dod i mewn i farchnad y DU ac yn rhatach na chig ein ffermwyr cig eidion yng Nghymru? A yw'n golygu y byddwn ni’n gweld, er enghraifft—ac roedd ei blaid ef yn ymgyrchu yn erbyn TTIP, gan ddweud ei fod yn gytundeb gwael—a yw hyn yn golygu, pe byddai TTIP yn ôl ar y bwrdd, y byddai’n ei gefnogi nawr? A fyddai'r blaid yn ei gefnogi nawr? A yw'n golygu, er enghraifft, y bydd y DU yn cwympo ar ei phen-gliniau os bydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn dweud, 'Mae’n rhaid i chi agor eich gwasanaethau cyhoeddus i’w preifateiddio'? Oherwydd dyna fyddant yn pwyso amdano.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i o blaid perthynas dda gyda'r Unol Daleithiau. Wrth gwrs fy mod i. Rwyf o blaid perthynas dda gyda phob gwlad. Ond rwy’n cael fy nghyffwrdd weithiau gan naïfrwydd hyfryd arweinydd UKIP a'i gyd-deithiwr, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, pan fyddant yn meddwl y bydd y byd yn lle hawdd a bod cytundebau masnach rydd yn hawdd eu cytuno. Nid yw hynny’n wir. Cymerodd y cytundeb masnach rydd rhwng yr UE a'r Ynys Las dair blynedd, ac roedd hynny’n ymwneud â physgod yn unig. Cymerodd y cytundeb gyda Chanada saith mlynedd. Mae cytundebau eraill yn cymryd 10 mlynedd.
Rwyf i wedi edrych ar y rhestr o dariffau dan sylw. Hynny yw, ceir tariffau ar hetiau ac ambarelau, er mwyn popeth. Mae amaethyddiaeth bob amser wedi ei heithrio o gytundebau masnach rydd. Bron bob amser. Nid yw yno gyda Chanada, nid yw yno rhwng Norwy a'r UE. Mae'r tariff amaethyddol bron i 50 y cant. Ni all ffermwyr Cymru fyw gyda thariff ar gig oen Cymru a chig eidion Cymru o 50 y cant, ac mae unrhyw un sy'n credu y gallant yn siomi ffermwyr Cymru.