<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:44, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ar 15 Rhagfyr y llynedd, cyhoeddwyd ffigurau ar berfformiad a gwerth economi Cymru. Nawr, nid ydynt wedi cael llawer iawn o sylw, ond maen nhw’n dangos bod economi Cymru yn 71 y cant o fynegai'r DU erbyn hyn, i lawr o 71.4 y cant yn 2014. Nawr, mae angen i ni fod yn cau’r bwlch cyfoeth hwnnw ac nid llywyddu dros ei ehangiad. Ar wahân i'r risg sy'n ein hwynebu o ran colli cyllid a dderbynnir ar hyn o bryd gan gymunedau o amddifadedd, ceir perygl hefyd i fusnesau a swyddi o'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n hanfodol o safbwynt diogelu swyddi bod Cymru yn parhau i gymryd cymaint ag y gallwn o ran yn y farchnad sengl. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â Phlaid Cymru ei bod er budd cenedlaethol Cymru i barhau i gymryd rhan lawn yn y farchnad sengl heb dariffau na rhwystrau?