<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:50, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n gweithio gyda Llywodraeth yr Alban. Nid oes gennym, yn amlwg, yr un farn ar y nod yn y pen draw, fel petai, ond rydym ni’n gweithio gyda nhw ac yn siarad â nhw gyda’r bwriad o ganfod tir cyffredin lle y gallwn, ac mae hynny'n ddiplomyddiaeth synhwyrol. Mae Gogledd Iwerddon yn anoddach, oherwydd, yng Ngogledd Iwerddon, roedd gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog safbwyntiau hollol wahanol ar Brexit. Rydym ni’n gweld y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, a rhan o ddeinamig y broblem yng Ngogledd Iwerddon yw Brexit. Nid dyna’r brif broblem ar hyn o bryd, ond mae'n bodoli, oherwydd y cytundeb heddwch a roddwyd ar waith, a'r unig hunaniaeth yr oedd pobl yng Ngogledd Iwerddon yn ei rhannu oedd yr un Ewropeaidd; nid oes ganddyn nhw hunaniaeth arall maen nhw’n ei rhannu. Mae'n rhaid rheoli hynny'n ofalus iawn felly. Ond mae'n hynod bwysig, beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad yng Ngogledd Iwerddon, ein bod ni’n gallu gweithio gyda Gogledd Iwerddon a'r Alban i atgoffa Whitehall nad yw hyn yn ymwneud â swigen Whitehall yn unig; mae’n ymwneud â phob un o bedair gwlad y DU.