<p>Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:02, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae teithio ar reilffordd Rhymni i Gaerdydd yn ystod y cyfnod brig ar reilffyrdd y Cymoedd yn brofiad ofnadwy. Rwy’n gwybod hynny o deithiau yr wyf i wedi bod arnynt fy hun, ac mae rheilffyrdd y Cymoedd yn gyffredinol, rwy’n clywed, yr un fath. Mae Arriva wedi dweud wrthyf nifer o weithiau nad oes cerbydau ar gael i leddfu'r gorlenwi. Dywedasant wrthyf y byddai’n cymryd oddeutu tair blynedd i gaffael trên diesel newydd, o’r caffaeliad i dderbyn y stoc. Mae hynny'n golygu, os archebir stoc diesel newydd yn rhan o'r cytundeb masnachfraint newydd, efallai na fydd teithwyr ar y rheilffyrdd yn gweld cerbydau newydd tan 2021 ar y cynharaf. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i leddfu'r broblem yn y tymor byr o ran cerbydau? Hefyd, a oes unrhyw ffordd y gall Llywodraeth Cymru archebu cerbydau newydd heddiw neu yn y misoedd nesaf? Efallai y bydd gan y gweithredwyr newydd, pan fyddant yn cymryd y fasnachfraint drosodd, gerbydau o ansawdd a nifer digonol i leddfu'r broblem gorlenwi.