Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 17 Ionawr 2017.
Rydym ni’n benderfynol na fydd unrhyw reilffordd yng Nghymru yn cael ei gadael ar ôl. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y profiad teithio i bobl cystal ar reilffordd a ddefnyddir yn helaeth fel rheilffordd Calon Cymru, sy'n llwybr pwysig i gymaint o gymunedau yng Nghymru. Dywedir, wrth gwrs, mai’r rheswm pam mae wedi goroesi yw ei bod yn rhedeg trwy chwe etholaeth ymylol—yn ôl yr hen chwedl—ond mae'n dda ei gweld hi yno. Mae'n rhan bwysig, nid yn unig i’n rhwydwaith rheilffordd i deithwyr, ond mae’n rheilffordd ddargyfeirio trenau cludo nwyddau bwysig hefyd pan fydd y brif reilffordd ar gau.