Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 17 Ionawr 2017.
Ceir disgwyliadau y byddwn yn eu gorfodi ar y rhai sy'n gwneud cais i redeg contract masnachfraint Cymru a'r gororau, ac yn rhan o'r disgwyliadau y bydd gennym ni, byddwn eisiau gwneud yn siŵr bod ganddynt brawf nid yn unig yn erbyn y gyfraith fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd ond, wrth gwrs, sicrhau eu bod yn gallu cydymffurfio â'r gyfraith yn y dyfodol.