Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 17 Ionawr 2017.
Wel, sylwais ei bod hi wedi dweud na fyddai newid ynghylch pwerau datganoledig ac y byddai cyfreithiau yn cael eu gwneud yn y Seneddau dros y Deyrnas Unedig. Dywedodd hi hefyd bod eisiau cryfhau’r undeb rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig. Nid wyf yn gwybod yn gwmws beth mae hynny’n ei feddwl. Os yw hynny’n meddwl, felly, y cawn ni system lle mae yna beirianwaith o sicrhau cytundeb rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ynglŷn â rhai pethau sy’n gyffredin rhyngom ni, wel, rwyf yn croesawu hynny. Os yw hynny’n rhyw fath o neges i ddweud y byddai rhai pethau’n cael eu penderfynu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn mannau datganoledig—na, ni fyddwn i’n croesawu hynny.