1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2017.
5. Pa bryd y gwnaeth y Prif Weinidog gyfarfod ddiwethaf â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i drafod perthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0372(FM)[W]
Wel, fe gwrddais â hi ym mis Hydref ac fe siaradais â hi'r bore yma cyn yr araith a wnaeth hi'r bore yma. Ni ddywedodd hi lot ynglŷn â beth roedd hi’n mynd i’w ddweud, heblaw am ddweud y byddai hi’n moyn sicrhau y byddai Prydain Fawr yn edrych mas i wledydd eraill y byd ac, wrth gwrs, yn cynnal perthynas dda gyda gwledydd Ewrop.
Tra fy mod yn falch o glywed bod y Prif Weinidog wedi siarad gyda Phrif Weinidog y Deyrnas y bore yma, nid wyf yn synnu nad oedd e wedi cael llawer o oleuni. Ond o ddeall beth y mae hi wedi ei ddweud yn yr araith, a ydy hi yn deall na fyddai’n briodol iddi hi, fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, geisio negodi ynghyd â gweddill yr Undeb Ewropeaidd ar faterion sydd wedi’u datganoli i’r fan yma?
Wel, sylwais ei bod hi wedi dweud na fyddai newid ynghylch pwerau datganoledig ac y byddai cyfreithiau yn cael eu gwneud yn y Seneddau dros y Deyrnas Unedig. Dywedodd hi hefyd bod eisiau cryfhau’r undeb rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig. Nid wyf yn gwybod yn gwmws beth mae hynny’n ei feddwl. Os yw hynny’n meddwl, felly, y cawn ni system lle mae yna beirianwaith o sicrhau cytundeb rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ynglŷn â rhai pethau sy’n gyffredin rhyngom ni, wel, rwyf yn croesawu hynny. Os yw hynny’n rhyw fath o neges i ddweud y byddai rhai pethau’n cael eu penderfynu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn mannau datganoledig—na, ni fyddwn i’n croesawu hynny.
Brif Weinidog, mae'n siŵr eich bod wedi eich brawychu cymaint â minnau yr wythnos diwethaf pan siaradodd ASau Torïaidd yn San Steffan am bedair awr i atal y Bil Aelod preifat gan Melanie Onn AS, a fyddai wedi diogelu pob agwedd ar ddeddfwriaeth gyflogaeth a ddiogelir ar hyn o bryd o dan gyfraith yr UE ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. A nodaf, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â gweithredoedd ei ASau yr wythnos diwethaf, bod Prif Weinidog y DU wedi rhoi sicrwydd penodol ar hawliau gweithwyr yn ei datganiad y bore yma. Ond a yw’r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod hyn yn dangos bod rhaniad eglur yn y blaid Dorïaidd ar y mater hollbwysig hwn o hawliau gweithwyr, sy'n golygu ei bod yn mynd i fod yn anoddach nag erioed i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu hamddiffyn ym Mhrydain ar ôl Brexit, ac a yw'n cytuno hefyd â'r TUC y bydd angen i ni wybod yn union beth fydd y fframwaith ar gyfer hawliau a swyddi gweithwyr?
Wel, nodais yr hyn a ddywedodd hi. Croesewais yr hyn a ddywedodd. Yn wir, dywedodd nid yn unig y byddai hawliau yn cael eu diogelu ond y byddent yn cael eu hymestyn yn y dyfodol, nad oeddwn i’n ei ddisgwyl, ond sy’n rhywbeth rwy’n ei groesawu. Tanseiliwyd hyn, wrth gwrs, gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, a saethodd fwled fawr iawn drwy’r ddadl honno. Gobeithio fod hyn yn arwydd ei bod hi’n barod i frwydro’r asgell dde rhonc yn ei phlaid ei hun ac i gyflawni'r addewidion a wnaeth heddiw, oherwydd gwyddom fod rhai yn y Blaid Geidwadol sydd o’r farn mai’r ffordd orau ymlaen yw gwneud y DU yn fodel o ddadreoli, mewn ffordd debyg i rai gwledydd yn y byd lle nad oes unrhyw hawliau i weithwyr, lle mae pobl yn byw mewn ofn o ran diogelwch eu swyddi ac y mae eu hansawdd bywyd yn llawer is na’r hyn sy’n bodoli yn y DU ar hyn o bryd hyd yn oed.
Roedd gennyf ddiddordeb yn sylwadau cynharach y Prif Weinidog ynghylch ein perthynas â’r UE yn y dyfodol, yn enwedig y goblygiadau i borthladdoedd Cymru. Awgrymodd y byddai'n annerbyniol i Ogledd Iwerddon gael trefniadau tollau mwy ffafriol na Chymru. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, yn y sefyllfa honno, a fyddai'n dadlau yn erbyn telerau o’r fath i Ogledd Iwerddon, neu a fyddai'n ceisio dull gwahaniaethol tebyg i Gymru er mwyn amddiffyn ein porthladdoedd a'n heconomi?
Ni fyddwn eisiau gweld tollau o gwbl rhwng unrhyw fan yn y DU ac unrhyw fan yng Ngweriniaeth Iwerddon. Yr hyn yr wyf i’n ei ofni yw y bydd bargen yn cael ei tharo lle na fydd unrhyw safleoedd tollau o gwbl ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a'r weriniaeth, ond eto bydd rhai ym mhorthladdoedd Cymru. Pe byddech chi’n weithredwr, y peth olaf y byddech chi ei eisiau fyddai gorfod mynd drwy'r tollau yn gorfforol, ac yn hytrach na mynd trwy Gaergybi, rydych chi’n mynd trwy Cairnryan i Larne ac i mewn i Ogledd Iwerddon, sy'n rhoi mantais gystadleuol sylweddol i Ogledd Iwerddon dros borthladdoedd Cymru. Byddai hynny'n cynrychioli, i mi, canlyniad annheg.
Brif Weinidog, rwy’n credu mai Brexit eglur oedd y canlyniad mwyaf tebygol erioed, o ystyried yr hyn y pleidleisiodd pobl drosto yn y refferendwm, ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio’n bennaf ar yr hyn sy’n digwydd wedyn. A ydych chi’n cytuno â mi y dylem ni geisio cael trefniadau sy'n seiliedig ar barch at ein cymdogion yn yr UE? Ni ddylai fod unrhyw elfen o ddymuno i’r UE fethu; bydd hynny’n achosi problemau enfawr i ni yn uniongyrchol. Cryfhau swyddogaeth Sefydliad Masnach y Byd—rwy’n bryderus iawn y gallai polisi America newid ar y mater hwn nawr, er fy mod i’n credu mai llawer o'r hyn y seiliodd pobl a oedd yn dadlau dros Brexit eu barn arno oedd y byddem ni’n symud i reolau Sefydliad Masnach y Byd, os mai dyna fyddai’n ofynnol. Yn olaf, mae swyddogaeth NATO—rydym ni’n cofio yr uwchgynhadledd hynod lwyddiannus honno yma yng Nghasnewydd—yn ffordd o ddangos i'r byd bod Prydain yn dal i geisio bodloni ei rhwymedigaethau rhyngwladol, a bod yn gymydog da.
Mae hynny'n hollol wir. Mae Brexit yn debyg i sefyll mewn bwyty a rhywun yn dweud yr hyn nad ydyn nhw ei eisiau oddi ar y fwydlen, yna’n ceisio dyfalu beth maen nhw ei eisiau heb iddyn nhw fynegi barn ar y mater o reidrwydd. Fel gwleidyddion, rydym ni i gyd wedi bod yn ceisio dyfalu beth maen nhw ei eisiau. Mae cymaint o wahanol fodelau. I mi, y bwriad o’r cychwyn fu gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwarchod, amddiffyn a gwella economi Cymru—mae hynny’n gwbl sylfaenol yn fy marn i—ac mae'n ymwneud â bod yn gymydog da. Nid yw Ewrop yn ymdrin ag anghydfod yn dda iawn; mae hanes yn dweud hynny wrthym. Rydym ni wedi bod yn llawer cryfach erioed pan ein bod ni wedi gweithio gyda'n gilydd. Yr Undeb Ewropeaidd oedd y fframwaith ar gyfer heddwch—y fframwaith ar gyfer heddwch yng Ngogledd Iwerddon, o ran hynny—ac mae'n hynod bwysig nad yw'r ewyllys da a’r cydweithrediad a ddatblygwyd dros gymaint o flynyddoedd ers diwedd y rhyfel yn cael eu colli wrth i ni geisio sefydlu perthynas newydd gyda'r UE yn y dyfodol.