<p>Perthynas Cymru â’r Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:12, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae hynny'n hollol wir. Mae Brexit yn debyg i sefyll mewn bwyty a rhywun yn dweud yr hyn nad ydyn nhw ei eisiau oddi ar y fwydlen, yna’n ceisio dyfalu beth maen nhw ei eisiau heb iddyn nhw fynegi barn ar y mater o reidrwydd. Fel gwleidyddion, rydym ni i gyd wedi bod yn ceisio dyfalu beth maen nhw ei eisiau. Mae cymaint o wahanol fodelau. I mi, y bwriad o’r cychwyn fu gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwarchod, amddiffyn a gwella economi Cymru—mae hynny’n gwbl sylfaenol yn fy marn i—ac mae'n ymwneud â bod yn gymydog da. Nid yw Ewrop yn ymdrin ag anghydfod yn dda iawn; mae hanes yn dweud hynny wrthym. Rydym ni wedi bod yn llawer cryfach erioed pan ein bod ni wedi gweithio gyda'n gilydd. Yr Undeb Ewropeaidd oedd y fframwaith ar gyfer heddwch—y fframwaith ar gyfer heddwch yng Ngogledd Iwerddon, o ran hynny—ac mae'n hynod bwysig nad yw'r ewyllys da a’r cydweithrediad a ddatblygwyd dros gymaint o flynyddoedd ers diwedd y rhyfel yn cael eu colli wrth i ni geisio sefydlu perthynas newydd gyda'r UE yn y dyfodol.