<p>Tata Steel</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Trafodais y mater gyda phrif swyddog gweithredol Tata Steel UK ddoe yn y cyfarfod a gefais gydag ef, ac rwyf wedi ysgrifennu heddiw at Koushik Chatterjee, sef Prif Swyddog Gweithredol cyllid Tata, sy'n ddylanwadol iawn o ran y materion hyn. Rwyf wedi ei gwneud yn eglur ei bod yn hynod bwysig bod Tata yn esbonio'n glir iawn i'r gweithlu beth yw goblygiadau'r newidiadau.