1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan pa gynlluniau sydd ganddo i drafod y pecyn o gynigion y mae Tata Steel wedi'i gyflwyno i'r gweithlu gyda'r cadeirydd dros dro, Ratan Tata? OAQ(5)0370(FM)
Trafodais y mater gyda phrif swyddog gweithredol Tata Steel UK ddoe yn y cyfarfod a gefais gydag ef, ac rwyf wedi ysgrifennu heddiw at Koushik Chatterjee, sef Prif Swyddog Gweithredol cyllid Tata, sy'n ddylanwadol iawn o ran y materion hyn. Rwyf wedi ei gwneud yn eglur ei bod yn hynod bwysig bod Tata yn esbonio'n glir iawn i'r gweithlu beth yw goblygiadau'r newidiadau.
Yn ei gyfarfod â Bimlendra Jha, a lwyddodd i amlinellu natur y pryderon yr ydym ni wedi eu mynegi yn fy mhlaid i, ond sydd hefyd yn cael eu rhannu'n eang ymhlith y gweithlu, am natur hynod ansicr yr ymrwymiadau ar fuddsoddiad a chyflogaeth, a hefyd canlyniadau posibl y cynnig i ddadgysylltu cynllun pensiwn Dur Prydain a Tata yn creu cronfa amddifad i bob pwrpas? Ac a lwyddodd i gael rhywfaint o sicrwydd neu gonsesiynau gan Tata Steel o ran rhai o’r pryderon hyn?
Yr hyn a wyddom gan Tata yw eu bod wedi ymrwymo i’r pum mlynedd nesaf o leiaf i Bort Talbot os ceir cytundeb ar y cynllun pensiwn. Rydym ni’n gwybod y byddant wedi ymrwymo i ddwy ffwrnais chwyth yn y cyfnod hwnnw. Mae'r arian yr ydym ni wedi ei roi ar gael o bosibl i Tata yn amodol; rydym ni eisiau gweld rhai gwarantau yn cael eu rhoi ar waith os yw'r arian hwnnw’n mynd i gael ei ryddhau, fel y byddai’r Aelodau’n disgwyl i ni ei wneud. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn deg i ddweud, er bod y penderfyniad hwn yn anodd i’r gweithwyr yno, nad oes unrhyw beth arall ar y bwrdd. Y dewis yw derbyn yr hyn sydd yno, er mor anodd y gallai hynny fod, neu rydym ni yn ôl i’r cychwyn, i bob pwrpas: ansicrwydd mawr. Mae'n ddewis anodd, rwy’n derbyn hynny, ond dyna'r dewis y mae’r gweithwyr yn ei wynebu. Serch hynny, rydym ni wedi dod yn bell o ble’r oeddem ni ym mis Mawrth pan oedd y sefyllfa'n llwm dros ben, mae’n rhaid i mi ddweud. Pe byddech chi wedi gofyn i mi bryd hynny a fyddai pen trwm Port Talbot yn parhau, rwy’n credu mai ‘na fyddai’ fyddai’r ateb wedi bod yn ôl pob tebyg; roedd yn annhebygol. Oherwydd y gwaith caled sydd wedi ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru; y gwaith caled sydd wedi ei wneud gan gynrychiolwyr fel David Rees; ac oherwydd y gwaith caled a wnaed gan ein swyddogion, mae'r arian wedi ei roi ar y bwrdd ac rydym ni mewn sefyllfa, erbyn hyn, lle mae Tata yn gallu cynnig cyfle i weithwyr Cymru y mae’n rhaid i’r gweithwyr ei ystyried nawr.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Cefais gyfarfod gyda’r undebau llafur a’r gweithwyr dur yr wythnos diwethaf, unwaith eto, i drafod rhai o'r materion sy'n gysylltiedig â'r heriau sy'n eu hwynebu. Roedd y cynnig yn un o'r materion a gododd, a’r hyn a oedd yn eglur oedd y diffyg ffydd, fel yr wyf yn credu sydd wedi cael ei amlygu, yn Tata ei hun ar hyn o bryd. Rwyf wedi rhannu hynny fy hun gyda Mr Jha, ond a wnewch chi ei godi nawr gyda chadeirydd newydd Tata and Sons, Mr Chandrasekaran, gan ei bod yn bwysig bod llais o frig Tata yno i ddweud, 'Rydym ni’n cefnogi’r cytundeb hwn, rydym ni’n mynd i anrhydeddu’r cytundeb hwn, mae'n mynd i fod ar y bwrdd a byddwn yn ei ddarparu'? Credaf fod llais o'r brig yn bwysig i'r gweithwyr gael y ffydd honno y maen nhw wedi ei golli yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rwy'n credu bod hwnna’n awgrym diddorol. Fel y dywedais, rwyf wedi ei gwneud yn eglur i Tata ei bod yn hynod bwysig ei fod yn cyfathrebu mor effeithiol â phosibl i'r gweithlu yr hyn sydd ar y bwrdd yma a’u hymrwymiadau eu hunain, wrth gwrs. Nid oes gennyf unrhyw reswm i amau’r ymrwymiadau y mae Tata wedi eu gwneud. Ond, wrth gwrs, mae'n bwysig ailadrodd y pethau hyn er mwyn i bobl ddeall bod yr ymrwymiadau hynny’n cael eu gwneud.
Brif Weinidog, dywedasoch nad oes unrhyw gynnig arall ar y bwrdd ac rwy’n derbyn y sefyllfa honno hefyd. Ond a gaf i ofyn pa drafodaethau cychwynnol ydych chi wedi eu cael, fel Llywodraeth, gyda Llywodraeth y DU, yr undebau a phartïon eraill sydd â diddordeb, ar ddatblygu strategaeth arall rhag ofn y bydd y cynnig presennol yn cael ei wrthod?
Nid oes gan Lywodraeth y DU ddiddordeb, ac ni fu ganddi ddiddordeb ers newid y Prif Weinidog. Rydym ni mewn sefyllfa lle mae’r mater o ddiwydiannau ynni-ddwys a phris trydan yn y DU yn dal i fod yn broblem. Fe'i codwyd gyda mi gan Tata ddoe; maen nhw’n dal i ddweud bod y DU yn lle drud i wneud busnes oherwydd ei phrisiau ynni. Nid ydym wedi gweld camau digonol gan Lywodraeth y DU eto i gefnogi’r gwaith da sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru.