<p>Tata Steel</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:16, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Nid oes gan Lywodraeth y DU ddiddordeb, ac ni fu ganddi ddiddordeb ers newid y Prif Weinidog. Rydym ni mewn sefyllfa lle mae’r mater o ddiwydiannau ynni-ddwys a phris trydan yn y DU yn dal i fod yn broblem. Fe'i codwyd gyda mi gan Tata ddoe; maen nhw’n dal i ddweud bod y DU yn lle drud i wneud busnes oherwydd ei phrisiau ynni. Nid ydym wedi gweld camau digonol gan Lywodraeth y DU eto i gefnogi’r gwaith da sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru.