<p>Ffordd Osgoi Caernarfon/Bontnewydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:17, 17 Ionawr 2017

Mi ges i gyfarfod ddoe efo’r contractwyr ar gyfer y cynllun yma, sef Jones Brothers a Balfour Beatty, ac maen nhw’n bryderus iawn nad oes yna ddyddiad wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus. Mae hynny, yn ei dro, yn mynd i olygu oedi os nad oes yna symudiad buan iawn ar gyfer hynny. Mae’r cynllun wedi’i oedi 12 mis yn barod, fel y byddwch chi’n gwybod, oherwydd dadlau ynglŷn ag ystlumod. Yn sicr, nid ydym eisiau mwy o oedi. A fedrwch chi roi sicrhad y gall y contractwyr symud ymlaen efo’r cynllun yma yn fuan yn 2018, sef yr amserlen ar hyn o bryd?