Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 17 Ionawr 2017.
Rŷm ni’n mynd trwy’r pethau a gafodd eu codi yn y datganiad amgylcheddol ym mis Awst er mwyn sicrhau bod y rheini’n cael eu datrys. Ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru, gallaf ddweud wrth yr Aelod fod yr ymrwymiad i adeiladu’r ffordd osgoi yn dal i fod yna, er bod oedi wedi bod. Nid oedd modd i osgoi hynny. Ond, na, mae’n hollbwysig bod yr hewl yn cael ei hadeiladu cyn gynted ag sy’n bosibl.