Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 17 Ionawr 2017.
Mae elfennau o'r hyn sydd wedi digwydd yn NSA Afan sydd yn cael eu hymchwilio gan yr heddlu ar hyn o bryd, fel y soniasoch—ac rwy’n credu, yn amlwg, bod angen i ni fod yn sensitif i hynny—ond beth sydd o ddiddordeb i mi yw cyfranogiad eich Llywodraeth ac ymchwilio i gyfres o honiadau am afreoleidd-dra ariannol, a wnaed gan chwythwr chwiban fis Rhagfyr y llynedd, nad ydyn nhw ar hyn o bryd, fel y deallaf, yn destun ymchwiliad yr heddlu. Ar sail yr honiadau hyn, mae eich Llywodraeth wedi cymryd y cam o atal ei chyllid yn llawn i NSA Afan, a beth mae hyn yn ei olygu yw na fydd rhai o'r 16 o aelodau staff yn cael eu talu o gwbl ymhen pum diwrnod, ac mae uwch-swyddogion yn NSA Afan wedi dweud wrthyf eu bod wedi gofyn i chi adfer y cyflog tra y byddwch yn parhau i edrych ar y broses hon. Maen nhw hefyd wedi dweud y dylai hyn gael ei atgyfeirio yn llwyr i’r heddlu fel y gallan nhw edrych ar hyn yn annibynnol, a byddwn yn ategu'r alwad honno iddo gael ei drosglwyddo i'r heddlu ac i'r Archwilydd Cyffredinol Cymru annibynnol edrych ar hyn. Oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, er nad wyf yn amau eich gonestrwydd personol chi, mae gennych fuddiant yn hyn fel Llywodraeth, oherwydd eich bod chi eich hun wedi archwilio NSA Afan, ac yn y gorffennol nid ydych wedi dangos bod pryderon yn yr archwiliadau penodol hynny. Byddwn felly yn eich annog i gyfeirio hyn i’r archwilydd cyffredinol ac i’r heddlu fel y gallwn gael ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r hyn sy'n digwydd yn NSA Afan ar hyn o bryd.
Fy nghais olaf i chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yw eich bod o blaid terfynu Cymunedau yn Gyntaf a bod ymgynghoriad yn parhau. Byddwn i’n awgrymu’n gryf y dylid ymchwilio i’r materion hyn yn llawn cyn i chi ymrwymo i derfynu unrhyw un o'ch polisïau cenedlaethol o ran Cymunedau yn Gyntaf. Dylai'r holl wybodaeth am NSA Afan gael ei harchwilio'n llawn ac yn annibynnol, er mwyn i ni fel Aelodau'r Cynulliad, y cyhoedd a’r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny gael sicrwydd y dilynwyd y drefn lywodraethu a bod yr arian wedi ei ddefnyddio'n effeithiol ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf yn yr ardal hon, ac i ddangos i weddill Cymru bod yr arian yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol.