– Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2017.
Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy’n galw ar Bethan Jenkins i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am atal cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan? EAQ(5)0093(CC)
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae NSA Afan yn destun ymchwiliad parhaus Llywodraeth Cymru i honiadau o gamddefnyddio posibl o arian. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol, gan gynnwys yr heddlu, ar hyn o bryd. Byddai'n amhriodol imi wneud unrhyw sylwadau pellach.
Mae elfennau o'r hyn sydd wedi digwydd yn NSA Afan sydd yn cael eu hymchwilio gan yr heddlu ar hyn o bryd, fel y soniasoch—ac rwy’n credu, yn amlwg, bod angen i ni fod yn sensitif i hynny—ond beth sydd o ddiddordeb i mi yw cyfranogiad eich Llywodraeth ac ymchwilio i gyfres o honiadau am afreoleidd-dra ariannol, a wnaed gan chwythwr chwiban fis Rhagfyr y llynedd, nad ydyn nhw ar hyn o bryd, fel y deallaf, yn destun ymchwiliad yr heddlu. Ar sail yr honiadau hyn, mae eich Llywodraeth wedi cymryd y cam o atal ei chyllid yn llawn i NSA Afan, a beth mae hyn yn ei olygu yw na fydd rhai o'r 16 o aelodau staff yn cael eu talu o gwbl ymhen pum diwrnod, ac mae uwch-swyddogion yn NSA Afan wedi dweud wrthyf eu bod wedi gofyn i chi adfer y cyflog tra y byddwch yn parhau i edrych ar y broses hon. Maen nhw hefyd wedi dweud y dylai hyn gael ei atgyfeirio yn llwyr i’r heddlu fel y gallan nhw edrych ar hyn yn annibynnol, a byddwn yn ategu'r alwad honno iddo gael ei drosglwyddo i'r heddlu ac i'r Archwilydd Cyffredinol Cymru annibynnol edrych ar hyn. Oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, er nad wyf yn amau eich gonestrwydd personol chi, mae gennych fuddiant yn hyn fel Llywodraeth, oherwydd eich bod chi eich hun wedi archwilio NSA Afan, ac yn y gorffennol nid ydych wedi dangos bod pryderon yn yr archwiliadau penodol hynny. Byddwn felly yn eich annog i gyfeirio hyn i’r archwilydd cyffredinol ac i’r heddlu fel y gallwn gael ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r hyn sy'n digwydd yn NSA Afan ar hyn o bryd.
Fy nghais olaf i chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yw eich bod o blaid terfynu Cymunedau yn Gyntaf a bod ymgynghoriad yn parhau. Byddwn i’n awgrymu’n gryf y dylid ymchwilio i’r materion hyn yn llawn cyn i chi ymrwymo i derfynu unrhyw un o'ch polisïau cenedlaethol o ran Cymunedau yn Gyntaf. Dylai'r holl wybodaeth am NSA Afan gael ei harchwilio'n llawn ac yn annibynnol, er mwyn i ni fel Aelodau'r Cynulliad, y cyhoedd a’r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny gael sicrwydd y dilynwyd y drefn lywodraethu a bod yr arian wedi ei ddefnyddio'n effeithiol ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf yn yr ardal hon, ac i ddangos i weddill Cymru bod yr arian yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol.
Lywydd, diolchaf i'r Aelod am ei chyfraniad. Mae'r Aelod yn gwneud llawer o ragdybiaethau yn ei chyfraniad, ac mae rhai ohonynt nad ydynt yn ffeithiol gywir. Mae NSA Afan yn destun ymchwiliad parhaus gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau eraill, gan gynnwys yr heddlu, ar hyn o bryd.
Diolch i chi am yr ateb yna, er ei fod yn fyr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi cwrdd â’r prif weithredwr ac aelodau o'r bwrdd ymddiriedolwyr ar sawl achlysur ers y cyhoeddiad i atal cyllid ar 12 Rhagfyr. Fy mhryderon i yw, efallai: beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn yr archwiliadau hyn ymlaen llaw? Rwy’n credu, fel yr amlygwyd, mai archwiliad Llywodraeth Cymru yw hwn. Pam na sylwyd ar hyn yn gynharach? Oherwydd mae problemau amlwg yno ac mae’n ymddangos eu bod wedi bod yn digwydd ers cryn amser. Ond hefyd, ceir cwestiwn cyllido o ran y cyfnod o 1 Rhagfyr i 12 Rhagfyr pan gafodd y cyllid ei atal. Beth sy'n digwydd i'r arian ar gyfer darparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwnnw? Ond, hefyd, pa ddewisiadau eraill a fydd yn cael eu rhoi ar waith? Rydych chi wedi atal y cyllid, ond mae yna bobl sy’n aros i ymuno â rhaglenni nad ydynt ar gael iddyn nhw, yn y bôn, gan fy mod yn deall bod NSA Afan wedi atal cyflwyno ei ddarpariaeth o raglenni mewn gwirionedd. A cheir aelodau staff, fel y nodwyd, sy'n debygol o golli eu swyddi o ganlyniad i hynny. Pa ddewisiadau eraill ydych chi’n eu rhoi ar waith neu yn eu sefydlu i sicrhau nad yw'r unigolion hynny yn talu’r pris am ymchwiliad a ddylai, efallai, fod wedi dod o hyd i rywbeth yn gynharach?
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod. Rwy’n diolch iddo ef ac i eraill am godi'r mater hwn gyda mi yn y gorffennol. Mae hyn yn cael ei ymchwilio gan Lywodraeth Cymru a gan yr heddlu ac nid wyf yn gallu rhoi unrhyw fanylion pellach am hyn i'r Siambr heddiw, ond pan fyddwn yn codi'r gwaharddiad, os byddwn yn gwneud hynny, ar gefnogaeth i NSA Afan, neu fel arall, byddaf yn rhoi gwybod i'r Siambr.
Fodd bynnag, rwy'n credu mai un o'r pethau y gallwch chi ddweud wrthym amdano, Weinidog, yw’r effaith mae hyn yn ei chael ar sefydliadau partner sydd wedi bod yn gweithio gyda NSA i gyflwyno ystod o raglenni ers cryn amser erbyn hyn. Nid hwn yw’r sgandal posibl cyntaf sydd wedi mynd trwy archwiliad a chael sêl bendith—rydym yn ymwybodol o Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan. Un o ganlyniadau difrifol Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan oedd i’r sefydliadau partneriaeth hynny, yr oedd yn rhaid i rai ohonyn nhw aros hyd at flwyddyn dan fygythiad o gael eu hymchwilio eu hunain o ganlyniad i'r hyn a ddigwyddodd yno. Felly, yn gyntaf, a wnewch chi roi rhyw syniad i ni o amserlen yr archwiliad yr ydych chi’n ymgymryd ag ef yn y Llywodraeth, ond hefyd yr hyn yr ydych chi’n ei wneud i gefnogi’r sefydliadau partneriaeth hynny drwy gyfnod a fydd yn anodd iawn ac o bosibl, i bob pwrpas, yn ddiwedd arnyn nhw, os na fyddwch chi’n ymdrin â hyn yn gyflym?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy’n gobeithio y bydd fy nhîm yn rhoi argymhellion i mi ar ddyfodol y NSA a'r rhaglen erbyn diwedd yr wythnos hon. Mae fy nhîm eisoes wedi dechrau trafodaethau â NSA Afan, a hefyd â'r awdurdod lleol o ran unrhyw ganlyniadau posibl yn y dyfodol.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.