Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 17 Ionawr 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n ddrwg gennyf nad yw’r Aelod wedi llwyddo i ddeall ein safbwynt, sydd wedi bod yn gyson iawn yn fy marn i. Rydym wedi gwrthwynebu’n gyson fodolaeth tollau pan fydd y croesfannau’n dychwelyd yn ôl i berchnogaeth y cyhoedd, ac rydym wedi gwneud ein safbwynt yn glir iawn i'r Adran Drafnidiaeth, ar lefel gweinidogion ac ar lefel swyddogion, a hefyd dro ar ôl tro yn y cyfryngau. Byddwn i’n fodlon cyfarfod â'r Aelod i drafod yr hyn yr wyf i o’r farn ei fod yn faes cymhleth iawn o waith cyfreithiol, a byddwn hefyd yn falch o roi briff cynhwysfawr i Aelodau o'r gwahanol Ddeddfau y mae’r Aelod yn cyfeirio atyn nhw.
Rwy'n credu ei fod yn codi nifer o bwyntiau pwysig, ond yr hyn sydd gennym yn y bôn yw dadl gyfreithiol yn erbyn dadl economaidd. Mae gennym ddadl gyfreithiol sy'n cael ei chynnig gan Lywodraeth y DU; mae gennym ddadl economaidd sy'n dangos yn glir y byddai cael gwared ar y tollau yn fuddiol i economi Cymru. Nawr, rwyf hefyd yn siomedig, mae’n rhaid i mi ddweud, nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried dileu’r ddyled, sydd oddeutu £36 miliwn erbyn hyn, o ystyried bod Llywodraeth y DU wedi dileu’r ddyled ar gyfer croesfan Humber. Yn fy marn i, os yw’n iawn i wneud hynny ar gyfer yr Humber, dylai fod yn iawn i wneud hynny ar gyfer yr Hafren, ac rwyf wedi drysu, mae’n rhaid i mi ddweud, gan y rhesymeg sy'n cael ei roi, yn enwedig gan fod y croesfannau Hafren yn ffyrdd strategol, ac nid yn rhan o rwydweithiau awdurdodau lleol, fel sy’n wir am groesfan Humber.
Yn fy marn i, mae trethdalwyr Cymru—ac, yn wir, trethdalwyr eraill—eisoes wedi talu’r ddyled honno, gan symiau sylweddol o arian ar ffurf trethi cyffredinol dros nifer o flynyddoedd. Nawr, ni roddwyd unrhyw rybudd ymlaen llaw i ni o'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, rwyf wedi ysgrifennu i fynegi fy siom ynghylch hyn, a byddwn i'n fwy na pharod i rannu â’r Aelodau, drwy ddatganiad ysgrifenedig, fy ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau yn ymwneud â Deddf Pontydd Hafren 1992. Fel yr awgryma, yn seiliedig ar y cyngor—y cyngor cyfreithiol—yr wyf wedi’i gael, ein dealltwriaeth ni yw bod Llywodraeth y DU yn bwriadu parhau i godi tollau yn rhinwedd cynllun codi tâl ar ffyrdd, fel yr oedd yr Aelod yn sôn, o dan adran 167 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Er nad ydym yn credu bod unrhyw reswm i gredu nad yw hyn yn bosibl yn gyfreithiol, rwy’n fwy na pharod i drafod hyn gyda'r Aelod, gyda chyfreithwyr. Ac, yn wir, rwy’n dychwelyd at y pwynt a wnes yn gynharach: ni waeth beth yw rhagoriaethau cyfreithiol sefyllfa Llywodraeth y DU, rwy’n credu ei bod hi’n gwbl amhosibl cyfiawnhau cynnal sefyllfa lle y trethir busnesau, a chymudwyr ar draws Afon Hafren.