Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 17 Ionawr 2017.
Y mae gennych ddawn dweud, Ysgrifennydd y Cabinet. Blwyddyn newydd dda i chithau hefyd.
Byddech yn cael maddeuant am feddwl ei bod hi’n dal yn ‘Ddydd Llun y Felan’ o wrando ar rai o'r cwestiynau llai na chadarnhaol a ofynnwyd i chi heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod ni’n derbyn y byddai llawer ohonom yn hoffi gweld y tollau yn cael eu dileu’n gyfan gwbl ar y croesfannau Hafren, ac yn cydnabod y byddai hynny o fudd enfawr i'r economi, rwy’n credu bod yn rhaid i chi dderbyn bod y cyhoeddiad hwn yn welliant ar y sefyllfa a oedd gennym o’r blaen. Bydd modurwyr sy’n croesi’r pontydd hynny, o ganlyniad i'r newid hwn, yn talu tollau is nag yr oedden nhw, ac felly bydd ganddyn nhw fwy o arian yn eu pocedi. Felly, mae'n rhaid bod hynny’n fantais gadarnhaol i fusnesau. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi bod yn eirioliwr dros y metro a thrydaneiddio. A fyddech chi’n derbyn bod hyn yn rhan arall o jig-so’r ddinas-ranbarth, wrth i ni leihau’r tollau hynny? A sut ydych chi’n gweithio gydag awdurdodau lleol ym maes y fargen ddinesig i fanteisio i’r eithaf ar y datblygiad hwn a cheisio sicrhau’r effaith orau bosibl i fusnesau yn y de-ddwyrain?
Yn olaf, Lywydd, gan gyfeirio’n ôl at bwynt Jenny Rathbone—pwynt diddorol iawn, mewn gwirionedd—ynglŷn ag effaith gostwng y tollau ar lif traffig, ceir gwrthddadl i un Jenny Rathbone, a honno, wrth gwrs, yw bod ffyrdd o amgylch ardal Croesfannau Hafren, megis yng Nghas-gwent, yn fy etholaeth i, er enghraifft, sydd mewn gwirionedd yn cludo llawer o draffig—llawer mwy nag y dylen nhw—gan fod pobl ar hyn o bryd yn osgoi'r system doll. Felly, a ydych chi wneud cynnal unrhyw asesiad, neu a ydych chi’n bwriadu cynnal unrhyw asesiad, o effaith gostwng y tollau—i’r hyn yr ydych chi’n ei gynnig nawr, ond, gobeithio, yn y dyfodol, mwy fyth—ac effaith symiau is o draffig ar y ffyrdd cyfagos mewn ardaloedd megis Cas-gwent, a'r budd sy'n deillio o hynny ar gyfer cerddwyr, modurwyr ac o ran lleihau digwyddiadau traffig ar y ffyrdd yn yr ardaloedd hynny, sydd wir yn cael trafferth ar hyn o bryd oherwydd lefel y traffig?