Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 17 Ionawr 2017.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i gyfraniad. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le: mae hyn yn rhan o’r jig-so o ddull y ddinas-ranbarth. Roeddwn i’n falch o weld arweinydd cyngor Sir Fynwy yn cydnabod yr heriau, ond hefyd y cyfleoedd y byddai cael gwared ar y tollau ar y Croesfannau Hafren—neu ostwng y tollau o leiaf—yn ei gyflwyno i’r rhanbarth cyfan, nid dim ond yr ardal y mae’n ei gynrychioli. Rwy’n credu bod cyfle anhygoel i Sir Fynwy yn rhan o ymarferiad y ddinas-ranbarth—yn wir, rhanbarth y de-ddwyrain i gyd—wrth nodi cyfleoedd newydd i dyfu’r economi ranbarthol, ond nid oes dim amheuaeth, yn yr un modd, y gellid gwella cyfleoedd trwy gael gwared ar y tollau yn gyfan gwbl. Rwy’n credu bod y trethdalwyr eisoes wedi dileu’r ddyled, neu fe ddylen nhw fod wedi’i dileu, pe byddai Llywodraeth y DU ond yn cytuno mewn gwirionedd i weithredu hynny, o ystyried y swm mewn trethi cyffredinol y maen nhw wedi’i dalu’n barod, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod angen sicrhau bod y modelu ar gyfer llif y traffig yn gywir. Am y rheswm hwnnw, byddaf yn craffu ar y modelu TEMPro 7 sydd newydd gael ei gynnal yn rhan o'r gwaith hwn. Yn wir, rwy'n siŵr y byddaf yn ystyried hynny yn fy ymateb i'r ymgynghoriad, fy marn ar y gwaith modelu a'r effaith ar y gymuned ehangach yn yr ardal y mae'r Aelod yn ei gynrychioli.